Prentisiaethau cynhyrchu

Yn llawn syniadau, yn wych am drefnu, neu’n ymddiddori mewn cynhyrchu? Mae ein cynlluniau Cynhyrchu yn cynnig amrywiaeth o rolau ar draws teledu, sain a chynnwys digidol.

Info: Bydd ceisiadau ar gyfer ein cyfleoedd prentisiaeth sy’n dechrau ym mis Medi 2027 yn agor ar Tachwedd 2026.

Uwchbrentisiaethau/ Prentisiaethau uwch

Lefel 3-5
Os oes gennych chi lawer o syniadau ac eisiau datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i’w troi’n gynnwys gwych, dyma’r cynllun i chi.
Dysgwch sut i ddatblygu a chreu cynnwys ysgrifenedig a chlyweledol y gellir ei ddefnyddio i wneud y mwyaf o ymgysylltiad cynulleidfaoedd ar draws amrywiaeth o lwyfannau a chyfryngau.
I’r rheini sy’n gallu cynllunio, amldasgio, gweithio’n bwyllog o dan bwysau, datrys problemau a ffynnu mewn tîm.

"Gwireddu fy mreuddwyd oedd hi pan wnes i ddarganfod fy mod i wedi cael fy mhrentisiaeth – dyna oeddwn i wedi bod yn gweithio tuag ato ers cymaint o amser. Ac mae pethau wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Dw i wedi gwneud popeth o gyflwyno ar BBC Introducing i fynd i gemau pêl-droed a chynhyrchu nodweddion byw. Mae pob diwrnod yn wahanol, a dyna dw i’n ei garu fwyaf!”

Nell, Prentis Cynhyrchu

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: