Cymru Feed

Swyddi newydd BBC Cymru Fyw
Fyddech chi'n hoffi'r cyfle i weithio i wasanaeth arlein BBC Cymru Fyw, neu'n nabod rhywun fyddai â diddordeb?

Mae tair swydd wahanol yn cael eu hysbysebu. Cliciwch ar y dolenni isod am fanylion...

>> Cynhyrchydd Cynnwys (Cyfryngau Cymdeithasol)

>> Cynhyrchydd Cynnwys (BBC Cymru Fyw)

>> Newyddiadurwr/wraig (Cyfryngau Cymdeithasol)

Plîs nodwch y dyddiad cau - sef hanner nos, nos Lun 12/02/18.

BBC Cymru Fyw yw prif wasanaeth ar-lein Cymraeg y BBC, sy’n adlewyrchu’r diweddaraf am Gymru, a hynny yn Gymraeg. Mae Cymru Fyw ar gael ar wefan bbc.co.uk/cymrufyw, a hefyd ar ap, ac mae gennym gyfrifon Facebook a Twitter.

Pob lwc!

Newidiadau i Cymru Fyw
Pan lansiwyd Cymru Fyw dros dair blynedd nôl yn haf 2014, y bwriad oedd creu gwasanaeth ar-lein uchelgeisiol a pherthnasol yn y Gymraeg. Roedden ni’n gobeithio y byddai Cymru Fyw yn ateb y galw am wasanaeth ar-lein gan BBC Cymru fyddai’n adlewyrchu'r hyn sy’n digwydd yng Nghymru heddiw, yn cael ei ddiweddaru’n gyson ac yn unigryw i’r Gymraeg.

Mewn tair blynedd, mae nifer ein defnyddwyr unigryw – sef y nifer o ddefnyddwyr gwahanol sy’n defnyddio’r gwasanaeth – wedi codi o 10,000 i dros 40,000 bob wythnos. Mae lefelau gwerthfawrogiad ein defnyddwyr o’r gwasanaeth wedi codi. Mae Cymru Fyw ar gael, nid yn unig ar y wefan bbc.co.uk/cymrufyw, ond hefyd ar ffurf ap (ap Cymraeg cyntaf y BBC) a thrwy ap BBC News, ac mae gennym gyfrifon Facebook a Twitter. Mae’r gwasanaeth wedi tyfu ac esblygu yn aruthrol yn y blynyddoedd cyntaf.

Mae’r tirlun digidol wedi newid yn sylweddol mewn tair blynedd, ac yn parhau i wneud, ac mae’n bwysig bod Cymru Fyw yn ddigon hyblyg ac ystwyth i ymateb i hyn. Wrth adolygu ac ystyried ble ddylai Cymru Fyw fynd nesaf, ac er mwyn ymateb i’r gofynion gwahanol sy’n codi, rydym wedi penderfynu newid ychydig ar ein pwyslais golygyddol.

Un o nodweddion Cymru Fyw oedd y ‘llif byw dyddiol’ - diweddariadau byr oedd yn cynnwys pytiau o newyddion, gwybodaeth a dolenni i wefannau allanol, ac yn cael ei ddiweddaru rhwng 0800-1800 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Dros amser, rydym wedi gweld bod y defnydd o’r llif byw ar ei uchaf ar achlysuron penodol e.e. pan fo stori newyddion fawr yn torri ac yn datblygu, neu o ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod neu’r Sioe Fawr. Rydym wedi penderfynu felly i ganolbwyntio ar gynnal llif byw yn ystod y cyfnodau yma, yn hytrach na’i gynnal bob dydd o’r wythnos.

Mi fydd hyn yn ein caniatáu i ddatblygu elfennau eraill o’r gwasanaeth. Er enghraifft, rydym yn awyddus i gryfhau ein gallu i ddatblygu straeon newyddion gwreiddiol a chyhoeddi darnau nodwedd unigryw yn ein hadran Cylchgrawn. Byddwn hefyd yn creu mwy o gynnwys ffurf fer fel fideos a graffeg, a rhoi mwy o ymdrech i gyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Rydym hefyd yn dechrau cyhoeddi mwy o gynnwys lleol sydd yn eistedd yn ein hadrannau rhanbarthol yn y Gogledd-orllewin, Gogledd-ddwyrain, Canolbarth, De-orllewin, De-ddwyrain.

Un o elfennau’r llif byw dyddiol oedd ein bod yn cynnig dolenni i gynnwys ar-lein am Gymru tu hwnt i wefan y BBC, ac mae hyn yn parhau yn nod i ni fel gwasanaeth. Rydym yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o allu gwneud hyn er mwyn parhau i dynnu sylw ein defnyddwyr i’r cyfoeth o gynnwys sydd ar gael ar-lein yn y Gymraeg.

Wrth gwrs, os ydy Cymru Fyw yn mynd i lwyddo, mae gofyn iddo barhau i esblygu ac ymateb i’r newidiadau o’n cwmpas. Rydan ni bob amser yn awyddus i glywed gennych chi am unrhyw syniadau neu sylwadau am ddarpariaeth Cymru Fyw a sut allwn ni ei wella. E-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk.

Diolch am ddod gyda ni ar hyd y siwrne hyd yma... gobeithio byddwch chi’n aros efo ni yn ystod cymal nesaf y daith!

BBC Cymru Fyw - gwasanaeth sy'n diweddaru'n amlach
Dros yr wythnosau nesaf, fe welwch chi nifer o newidiadau i wefannau Cymraeg y BBC wrth i ni ffarwelio â Newyddion Ar-lein a chroesawu'r gwasanaeth newydd BBC Cymru Fyw.

Fel mae Huw Meredydd Roberts wedi blogio, ac fel yr addawyd llynedd, bydd y gwasanaeth newydd yn cyfuno newyddion a nifer o elfennau eraill.

Bydd yr elfennau newydd yn ymddangos yn raddol dros gyfnod o wythnosau, ac ar y dechrau, dim ond pobl sy'n dewis defnyddio fersiwn beta o wefan BBC Cymru Fyw fydd yn gweld y newidiadau.

Yn y pen draw bydd y wefan yn un gyfangwbl ymatebol (responsive) - gyda dyluniad sy'n gweithio lawn cystal ta beth yw maint y sgrîn rydych chi'n ei defnyddio – ffôn, tabled, neu sgrin fwy.

BBC Cymru Fyw

Ond er mor lan y dyluniad newydd, mae'n siŵr taw ar gynnwys y wefan y cawn ni ein barnu, a bydd gweddill yr erthygl hon yn canolbwyntio ar un elfen ganolog o'r gwasanaeth newydd:

Bydd llif byw o ddiweddariadau byrion yn cael ei gyhoeddi ar y wefan o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng wyth y bore a chwech yr hwyr, a thu hwnt i'r oriau hynny ar achlysuron arbennig.

Ry'n ni wedi arbrofi gyda'r syniad a'r dechnoleg ers tipyn, er enghraifft yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond bydd cynnwys llif dyddiol BBC Cymru Fyw yn fwy amrywiol na llif y Brifwyl. Bydd yn cwmpasu newyddion, chwaraeon, tywydd, teithio, a dolenni i wefannau allanol, diweddariadau o fyd y celfyddydau, rhaglenni teledu a radio, a blas o'r drafodaeth Gymraeg a Chymreig ar y cyfryngau cymdeithasol, a gyda lwc, tipyn o hwyl nawr ac yn y man.

Bydd y postiau yn y llif yn gryno ac amserol, ac yn ein galluogi ni i ymateb yn gynt pan mae newyddion yn torri. Byddwn ni hefyd yn rhoi dolenni i ffynonellau newyddion eraill - bydd awduron y llif yn dewis a dethol y wybodaeth ddifyrraf a diweddaraf yn Gymraeg ac am Gymru.

Bydd llif Cymru Fyw hefyd yn rhannu trydariadau, a phostiau o Facebook a blogiau, a byddwn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni, trwy ebost, Twitter a Facebook.

Mae'n bendant y bydd y llif byw yn esblygu dros yr wythnosau nesaf, felly dyma orffen gydag apel:

Helpwch ni i fowldio'r llif byw trwy roi gwybod beth yw'ch argraffiadau chi drwy e-bostio adborth.cymru@bbc.co.uk neu drydar @BBCCymru gan ddefnyddio #cymrufyw.

Byddwch yn amyneddgar gyda ni os nad yw popeth yn gweithio'n berffaith o'r cychwyn cyntaf.

Ac yn bwysicach na dim, ymunwch yn ysbryd y peth trwy gysylltu i ddweud wrthon ni am bethau sy'n digwydd yng Nghymru, a chynnwys newydd sy'n cael ei gyhoeddi ar y we. Gallwch e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk

Croeso i BBC Cymru Fyw
Mae’n ddiwrnod pwysig i BBC Cymru. Heddiw, 22 Ebrill 2014, mi rydan ni’n cymryd cam pwysig ymlaen wrth sefydlu gwasanaeth ar-lein Cymraeg newydd.

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur i ni – nid yn unig yn cyhoeddi cynnwys ar wefannau’r BBC wrth gwrs – ond yn ymchwilio, yn dadansoddi, yn crafu pen ac, yn fwyaf pwysig, yn gwrando.

O’r sylwadau a’r adborth rydan ni wedi eu derbyn, fe ddaeth yn glir bod ‘na alw am wasanaeth ar-lein gan BBC Cymru sydd yn unigryw i’r Gymraeg, yn adlewyrchu yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru heddiw ac yn cael ei ddiweddaru’n gyson.

Rwy’n falch i ddweud ein bod ni erbyn hyn yn barod i wthio’r cwch i’r dŵr... Croeso felly i BBC Cymru Fyw.

BBC Cymru Fyw

Beth yw BBC Cymru Fyw?

Bwriad y gwasanaeth yw i adlewyrchu ‘y diweddaraf am Gymru’, a hynny ym myd newyddion, gwleidyddiaeth, chwaraeon, y celfyddydau, cerddoriaeth, radio, teledu a diwylliant poblogaidd. Ond sut byddwn ni’n gwneud hyn?

Mi fydd newyddion yn ganolog i’r gwasanaeth wrth gwrs, ond hefyd mi fyddwn ni’n cyhoeddi darnau nodwedd a barn er mwyn cynnig onglau a safbwyntiau gwahanol - ffyrdd newydd o edrych ar faterion y dydd.

Gydag ymchwil yn awgrymu mai ychydig iawn o amser sy’n cael ei dreulio gan ddefnyddwyr y we ar wefannau Cymraeg yn gyffredinol, mae ‘na her yn ein hwynebu i dynnu sylw ein defnyddwyr at y cynnwys da sydd ar gael ar-lein – ac mae ‘na gynnwys da ar gael. Mi fyddwn ni felly yn cynnig dolenni dyddiol i gynnwys newydd am Gymru tu hwnt i’r BBC – yn ofod ar gyfer y gorau am Gymru.

Er mwyn tynnu’r holl elfennau yma at ei gilydd, mi fyddwn ni’n cyhoeddi llif byw o ddiweddariadau byrion. Bydd y llif yma o newyddion, gwybodaeth a dolenni yn ein caniatáu i gyhoeddi cynnwys yn gyflym, i’r funud, ac mewn un lle. Mae Ruth Thomas, sy’n arwain tîm newyddion BBC Cymru Fyw, yn esbonio mwy am yr elfen yma yn ei blog hi.

Un gwasanaeth, sawl sgrîn

Rwy’n falch o allu dweud y bydd BBC Cymru Fyw yn gweithio ar sgrîn o unrhyw faint - yn ffôn clyfar, yn dabled neu’n gyfrifiadur - a byddwn ni’n cynnig yr un gwasanaeth ar bob dyfais. Y term technegol am hyn yw gwefan ‘ymatebol’ (fully responsive), a Cymru Fyw yw’r gwasanaeth newyddion cyntaf yn y BBC i gynnig hyn.

Mae ‘na fanteision i fod y cyntaf i fentro – mae’n gyffrous i dorri tir newydd ac i arloesi wrth gwrs. Ond un o’r anfanteision yw y bydd y gwasanaeth yn newid ychydig yn ystod yr wythnosau cyntaf, a dyna’r rheswm ein bod ni’n dechrau arni gyda fersiwn ‘beta’ o Cymru Fyw.

Beth yw beta?

Mae’r term beta yn cyfeirio at wefan sy’n parhau i ddatblygu a newid. Felly, bydd rhai pethau yn cael eu hychwanegu at BBC Cymru Fyw yn ystod yr wythnosau nesaf cyn lansio’n swyddogol. A dyma lle dwi’n dod nôl at bwysigrwydd gwrando.

Wrth i ni lansio fersiwn beta o BBC Cymru Fyw, un o’r pethau mwyaf pwysig i ni yw i wrando ar yr hyn sydd ganddo chi i’w ddweud. Beth yw eich barn am y gwasanaeth? Ydych chi’n sylwi ar unrhyw broblemau wrth ei ddefnyddio (‘bugs’)? Oes ganddo chi awgrymiadau am sut allwn ni wella’r gwasanaeth? Gallwch roi gwybod i ni drwy e-bostio adborth.cymru@bbc.co.uk neu gallwch drydar @BBCCymru gan ddefnyddio #cymrufyw.

Mae ‘na hefyd gynlluniau i ryddhau ap Cymru Fyw yn y misoedd nesaf hefyd, felly cadwch eich llygaid yn agored am hynny.

Beth arall gan BBC Cymru ar-lein?

Nid BBC Cymru Fyw fydd yr unig wasanaeth ar-lein Cymraeg bydd BBC Cymru yn ei gynnig – mi fyddwn ni’n parhau i adeiladu ar lwyddiant Radio Cymru ar-lein, yr iPlayer, adnoddau dysgu a hefyd gemau CBeebies yn Gymraeg.

Pan sefydlwyd Radio Cymru yn y 70au, roedden nhw’n pwysleisio mai’r “bobl bia’r cyfrwng”. Ac felly mae hi gyda BBC Cymru Fyw. Maen nhw’n ddyddiau cynnar, ond maen nhw’n ddyddiau cyffrous, felly gobeithio y dewch chi efo ni ar y siwrne.

BBC Cymru - Dathlu 50
Dathliadau BBC Cymru yn 50

Penblwydd Hapus BBC Cymru! Oes, mae 'na hanner canrif ers darllediad cynta’r gwasanaeth cenedlaethol newydd ar Chwefror 9fed 1964.

Mae carreg filltir fel hon yn gyfle i edrych ar rai o’r newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol sydd wedi digwydd yma yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Roedd sefydlu gwasanaeth darlledu cenedlaethol i Gymru yn ddatblygiad pwysig iawn hanner can mlynedd yn ôl, ond pwy feddyliai bryd hynny y byddai yna gyfrwng newydd i gadw cwmni i’r gwasanaethau teledu a radio?

Rydyn ni wedi gwahodd tri blogiwr i bori trwy’r archif a rhannu sylwadau am rai o ddatblygiadau’r cyfnod.

Darllenwch a chliciwch wrth i ni gamu nôl i’r gorffennol ...

O Gaernarfon i Ddatganoli

Hanner Canrif o Frethyn

Cayo a Chofio Cwm Celyn

O Gaernarfon i Ddatganoli
Mae'r hanner canrif ddiwethaf ers sefydlu BBC Cymru wedi bod yn gyfnod o newid mawr yn wleidyddol a chymdeithasol.  Dyfan Powel, myfyriwr ymchwil yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn bwrw golwg ar rai o'r datblygiadau mwyaf.

Arwisgo Siarl yn Dywysog Cymru

You must enable javascript to play content

Hanes arwisgiad Charles yn Dywysog Cymru ym 1969.

Yn 1958 rhoddodd y Frenhines Elizabeth yr Ail y teitl Tywysog Cymru i’w mab Siarl, ond roedd yn rhaid iddo aros tan fis Gorffennaf, 1969, cyn cael ei arwisgo’n ffurfiol.

Rhai diwrnodau cyn i Neil Armstrong lanio ar y lleuad, cynhaliwyd seremoni rwysgfawr yng Nghastell Caernarfon lle datganodd Siarl ei gariad a’i ymrwymiad at bobl, diwylliant ac iaith Cymru. Yna bu Cymry nodedig yn datgan eu teyrngarwch i’r Goron. Ond i rai, bu’r dewis o leoliad yn adleisio arwisgiad mab Concwerwr Cymru, Edward I, yn 1301.

Cynheuodd y dathlu dân gweriniaethol a chenedlaetholgar ymhlith rhai Cymry a fynegwyd yn lliwgar drwy brotest a chelfyddyd.

Plaid Cymru yn ennill yn 1974

You must enable javascript to play content

Gwynfor Evans yn cyrraedd Llundain ar ôl ennill is-etholiad Caerfyrddin ym 1966.

Gyda buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, cychwynnodd cyfnod  newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Tyfodd Plaid Cymru’n fygythiad i Lafur, nid yn unig yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ond yn y Cymoedd hefyd. Bron i’r cenedlaetholwyr gipio Caerffili, Gorllewin y Rhondda a Merthyr mewn is-etholiadau.

Erbyn ail etholiad 1974, roedd Dafydd Wigley yn AS Arfon, ac, yn fwy annisgwyl i’r ‘proffwydi’ gwleidyddol, Dafydd Elis Thomas ym Meirionnydd i ymuno a Gwynfor Evans Nghaerfyrddin.

Er mai dim ond tri aelod oedd ganddynt, manteisiodd y Blaid ar leiafrif seneddol y Blaid Lafur i orfodi materion Cymreig ar agenda San Steffan, gan gynnwys ymrwymiad i refferendwm ar ddatganoli yn 1979 ac iawndal i chwarelwyr a ddioddefai o glefyd y llwch.

Protestiadau yn erbyn arfau niwclear

You must enable javascript to play content

Protest yn erbyn arfau niwclear yn RAF Breudeth ym 1982, rhan o ymgyrch CND yn y 1980au.

Yn yr 1980au, fe gynyddodd yr UDA a’r Undeb Sofietaidd dymheredd y Rhyfel Oer gan fabwysiadu polisïau tramor mwy ymosodol o gymharu â’r 70au.

Lleolodd y Sofietiaid daflegrau niwclear yng ngwledydd y Bloc Dwyreiniol, gosododd yr UDA daflegrau yng Ngorllewin Ewrop, a datblygodd Prydain y taflegrau ‘Trident’ ar ei llongau tanfor fel rhan o ‘ras arfau’ beryglus.

Yn cydredeg â hyn, gwelwyd twf yn aelodaeth a gweithgaredd CND – mudiad heddwch yn galw am ddiarfogi niwclear. Bu protestiadau heddychlon anferthol gyda channoedd ar filoedd mewn ralïau yn Llundain, gwarchae gan fenywod ar wersyll Americanaidd Greenham Common a gorymdeithiau drwy Gymru.

Byddai’r protestwyr yn cerdded i orsafoedd milwrol a niwclear Prydeinig er mwyn lleisio barn yn erbyn lleoli arfau niwclear yno.

Refferendwm 1997

You must enable javascript to play content

Canlyniadau refferendwm datganoli 1997.

Bu eu methiant trwm yn refferendwm 1979 yn ergyd fawr i ddatganolwyr Cymru. Ond bu profiadau'r wythdegau a’r nawdegau o ddinistr economaidd, polisïau Thatcheraidd yn cael eu gweinyddu drwy’r Swyddfa Gymreig a sgandalau CWANGOs Torïaidd yn ddigon i berswadio llawer fod yna ddiffyg democratiaeth yng Nghymru. Yng ngeiriau Ron Davies, roedd pobl Cymru’n pleidleisio dros Lafur ond yn cael Thatcher.

Ateb Ron Davies a’r prif weinidog Llafur Tony Blair yn ’97 oedd cynnig datganoli eto, a chyfle i Gymry ddewis eu harweinwyr. Dim ond 50.1% o etholwyr Cymru fwriodd eu pleidlais yn y refferendwm, a 50.3% o’r rhain yn dweud ‘Ie.’

Serch y mwyafrif bach, cafwyd symudiad anferth ym marn y pleidleiswyr rhwng 1979 ac 1997.

Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol, a bellach Senedd ddemocrataidd, yng Nghymru am y tro cyntaf ers dyddiau Owain Glyndŵr.

Hanner canrif o frethyn?
Elin Mai o gwmni Styledoctors yn Llundain sydd yn bwrw golwg ysgafn, bachog, dros wisgoedd rhai o'r pobl sydd wedi ymddangos ar rai o raglenni BBC Cymru/Wales dros y 50 mlynedd ddiwethaf.

Oedd Magi Post bron efelychu Twiggy? Ai aelodau Cymdeithas yr Iaith oedd y protestwyr smarta yn y byd?

Mae'r atebion i gyd yma! Darllenwch ymlaen.

Pobol y Cwm 1975

You must enable javascript to play content

Detholiad o bennod gynnar yn opera sebon BBC Cymru 'Pobol y Cwm'.

Diwrnod priodas a phawb yn smart yn Nghwm Deri. Siwtiau tri darn efo lapels anferth (yn ffodus nid yw'r siâp yma yn debygol o gael ei ail-gylchu!).

Trowsusau bell bottom gan y dynion a dal dipyn o ddelwedd yr hipi wnaeth gario mlaen o'r 60'au yn amlwg. Ddim cweit mor stylish â John Travolta yn Saturday Night Fever ond ddim yn bell.

Roedd yr edrychiad disco o siwtiau tri darn yn boblogaidd iawn yn y cyfnod yma a mae'n amlwg fod yn dynion yn eu dillad gorau.

Roedd y ffrog jyrsi gyntaf gan Diane von Fürstenberg (sydd dal o gwmpas heddiw) wedi ffeindio ei ffordd o Lundain i'r cymoedd hefyd. Roedd hwn yn gyfnod o drio pethau newydd a bod yn wahanol.

Swyn

You must enable javascript to play content

Y grŵp Swyn o Ysgol Glan Clwyd yn ennill y gân fodern yn Eisteddfod Dyffryn Clwyd 1973

Waw, dyma ni ffasiwn Cymraeg ar ei orau gyda'r grŵp mewn crysau coleri mawr, puff sleeve a ffrogiau pinaffor siec. Yn anaml iawn mae'n syniad da i oedolion wisgo yr un peth a'i gilydd i berfformio yn enwedig rhywbeth fel hyn!

Mae'r dillad yn cymeryd drosodd o'r gân ac mae'n debyg mai 'bespoke' ydi'r gwisgoedd yma. Mi fysai'r grŵp yma efo steilydd pe baent o gwmpas heddiw yn bendant.

Arwyddion ffyrdd

You must enable javascript to play content

Hanes protestiadau dros arwyddion ffyrdd dwyieithog.

Y peth sydd yn sefyll allan i mi ydi fod pawb dal yn hynod o smart hyd yn oed tra'n protestio. Mae'r dynion mewn siwtiau a'r merched mewn ffrogiau a sgertiau. Does na ddim tracksuit na hoodie i weld yn 'nunlle! Mae hyn yn amlwg cyn i'r term 'smart-casual' gael ei fathu.

Gwreiddiau canu pop Cymraeg

You must enable javascript to play content

Clipiau teledu archif yn adrodd hanes gwreiddiau cerddoriaeth bop Gymraeg yn y 1960au.

Seicadelic iawn! Mae'r gwallt, y prints ar siapiau yn amlwg o'r 60au o'r clip yma. Efallai fod ffasiwn wedi cymeryd drosodd gormod oherwydd nid ydi'r gantores yn edrych yn hapus iawn i fod yn y wisg! Ddim cweit y 'swinging 60's!

Cayo a Chofio Cwm Celyn
Ers sefydlu BBC Cymru yn 1964 mae'r gwasanaeth newyddion wedi hen ennill ei blwy.  Y newyddiadurwr Lyn Ebenezer sy'n rhannu ei brofiad personol am un o straeon mawr yr hanner can mlynedd diwethaf.

You must enable javascript to play content

Cafodd pentref Capel Celyn ei foddi yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr newydd Tryweryn.

Ychydig ddyddiau cyn agoriad swyddogol argae Tryweryn gwahoddwyd Cayo Evans a finne i sgwrsio ar raglen Heddiw, BBC Cymru. Cayo, wrth gwrs, oedd arweinydd Byddin Rhyddid Cymru a finne’n cael fy ystyried yn benboethyn. Caniatawyd i Cayo siarad yn Saesneg, er bod ei Gymraeg yn gwbl dderbyniol.

Y syniad oedd cael dwy farn wahanol. Roeddwn i dros gadw draw o’r ffars drist. Ac fe wnes. Roedd Cayo, ar y llaw arall, am ddefnyddio’r achlysur fel propaganda. Ac fe lwyddodd. Gwelwyd ef a dau arall, Dafydd ‘Sanchez’ Williams a Wyn Jones, y ddau o Aberystwyth gydag ef, y tri mewn lifrai’r FWA. Hwn oedd ymddangosiad cyhoeddus cyntaf aelodau o’r ‘fyddin’ a chafwyd ymateb anhygoel yn y wasg ac ar y cyfryngau.

Yn y dyddiau hynny cynhelid ymarferion cyn dangos eitemau byw ar Heddiw, a gofynnwyd i ninnau fynd drwy’n pethe yn ystod y prynhawn. Yr holwr – un da hefyd – oedd yr annwyl Owen Edwards.

Yn y rihyrsal aeth ati i bryfocio Cayo. Aeth ati yn arbennig i wawdio’n ysgafn arwydd yr FWA, sef Eryr Gwyn Eryri.

‘Where did you get this ridiculous idea?’ gofynnodd i Cayo.

Ateb di-flewyn ar dafod Cayo oedd: ‘Damn it all, man, don’t you read your own grandfather’s books?’

Oedd, roedd O M Edwards wedi creu chwedl o gwmpas yr Eryr Gwyn a chyhoeddi’r hanesyn hwnnw yn un o’i lyfrau. Ni ofynnwyd y cwestiwn eilwaith yn ystod y rhaglen fyw! Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan adawodd Owen y cyfryngau, fe wnaeth ddwyn ar gof y digwyddiad yn gyhoeddus wrth iddo gael ei holi ar raglen deledu. Arwydd o ddyn cadarn a gonest. Owen a Cayo, y ddau wedi’n hen adael. Coffa da am y ddau.

Stormydd Hydref
Gyda’r
Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am stormydd mawr ddiwedd mis Hydref ai
cyd-ddigwyddiad yw hi bod un o gorwyntoedd gwaethaf Prydain wedi digwydd yng
Nghymru union 100 mlynedd yn ôl?

Ar Hydref
27 1913, fe ‘sgubodd corwynt drwy ardal Cwm Taf yn ne Cymru gan achosi difrod
enfawr a lladd tri o bobl.

Mae’r
lluniau yma yn dangos maint y difrod yn ardal Trefforest, Cilfynydd,
Abercynon ac Edwardsville. Diolch i Archifau Morgannwg a gwefan Old Merthyr
Tydfil am ganiatâd i’w dangos.

Digwyddodd
cwta bythefnos ar ôl y ffrwydriad enfawr yng nglofa Senghennydd ac felly roedd nifer o ffotograffwyr yn dal yn ne Cymru wrth law i
gofnodi’r llanast.

Ewch i
wefan Wales Online i weld mwy o luniau, a darllen hanes prosiect ym Merthyr i greu archif ar-lein o luniau
a straeon pobl leol o’r digwyddiad.

Ond nid dyma’r
unig storm enwog ym mis Hydref: roedd llongddrylliad
yr Hindlea mewn storm arswydus oddi ar arfordir Môn ar yr un dyddiad, Hydref 27, yn 1959 a
suddodd y Royal Charter mewn storm debyg union 100 mlynedd cyn hynny, ac yn yr un lle, ar Hydref 26 1859.

LLAWN01 - Gŵyl gelfyddydol newydd Llandudno
Os ewch chi i Landudno y penwythnos yma (Medi 20-22) a gweld y lle yn edrych
yn fwy Fictorianiadd na’r arfer, peidiwch a phoeni, dydych chi heb gamu nôl
mewn amser, ond yn hytrach wedi dod o hyd i un o amryw ddigwyddiadau LLAWN01.

Cerbyd ymdrochi

Gŵyl gelfyddydol newydd rhad ac am ddim yw LLAWN01 (Llandudno Arts Weekend No.1) sydd
wedi cael ei threfnu a’i llunio gan Marc Rees, capten y prosiect Adain Avion yn
2012. Mae’r ŵyl yn dathlu’r hanes Fictorianaidd fu’n hanfodol yn llunio’r dref
glan-y-môr hon.

Canolbwynt y penwythnos fydd chwe cerbyd ymdrochi Fictorianaidd. Bydd y
cerbydau wedi eu gwasgaru o gwmpas y dref ac yn lleoliadau ar gyfer
perfformiadau amrywiol.

Bydd pob math o wahanol ddigwyddiadau yn digwydd mewn lleoliadau eraill o
gwmpas y dref, yn cynnwys y dawnsiwr Eddie Ladd a’r cerddor Helen Wynn Parri yn
perfformio yn Nghapel y Tabernacl ble bu Lewis Valentine yn pregethu, darn celf mewn gwesty yn adlewyrchu cysylltiad trist y
diwygiwr cymdeithasol John Bright â’r dref, ac ar y prom nos Wener bydd
dangosiad arbennig o ffilm Jaws yn dilyn detholiad o gerddoriaeth ffilm yn cael
ei chwarae gan Fand Tref Llandudno.

Bu Marc Rees ar raglen Nia Roberts ar Radio Cymru b’nawn Mercher yn egluro’r
ŵyl ymhellach – yn cynnwys y stori tu ôl i’r cerbydau ymdrochi.

You must enable javascript to play content

Rhan o sgwrs Marc Rees a Nia Roberts am ŵyl LLAWN01 yn Llandudno

Gwasanaeth newydd Cymru Fyw
Mae BBC Cymru Wales heddiw wedi cyhoeddi
buddsoddiad newydd sylweddol yn eu gwasanaethau digidol ar-lein yn Gymraeg gyda
chynlluniau i ddatblygu gwasanaeth newydd o'r enw Cymru Fyw.

Bydd y gwasanaeth, fydd yn dechrau fel
cynllun peilot am ddwy flynedd, ar gael ar bob llwyfan - cyfrifiaduron desg, ffônau
symudol a thabledi - a bydd yn cyfuno newyddion byw a nifer o elfennau eraill.
Prif nodweddion Cymru Fyw fydd:

y straeon newyddion diweddaraf ar draws Cymru

ffrwd blog byw gyda’r manylion diweddaraf am newyddion o Gymru,
chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth a thywydd, yn
ogystal â llwyfan i ryngweithio gyda defnyddwyr trwy gyfryngau cymdeithasol

porth i'r cynnwys ar-lein gorau yn Gymraeg gan gyflenwyr eraill - gan
ddefnyddio pŵer brand y BBC i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gynnwys perthnasol
ar draws y rhyngrwyd

eitemau nodwedd ac erthyglau barn

llwyfan ar gyfer pob gwasanaeth byw a chyfredol ar-lein arall sydd
ar gael yn Gymraeg gan y BBC, e.e. BBC Radio Cymru, BBC iPlayer, Democratiaeth
Fyw, Tywydd a Theithio

Bydd Cymru
Fyw yn cael ei ddatblygu a’i lansio dros y misoedd nesaf, a bydd y BBC yn
cryfhau’r tîm sy’n gweithio yn yr iaith Gymraeg, gan greu chwech o swyddi
ychwanegol.

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni
a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales, mai bwriad y datblygiad yw ehangu apêl
a chyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein:

“Mae'n rhaid i wasanaethau ar-lein,
rhyngweithiol yn Gymraeg gystadlu gyda chyfryngau byd-eang, a dyna un o'r
heriau mwyaf sylweddol sy'n wynebu'r iaith. Er ein bod yn darparu rhai o’r
gwefannau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg ers nifer o flynyddoedd, rydyn ni eisiau
creu mwy o argraff ar ein cynulleidfa,” meddai Sian.

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer
y defnyddwyr sy’n defnyddio gwefannau Cymraeg y BBC wedi cynyddu dros 50% - ond
rydyn ni’n hyderus bod yna le i dyfu ymhellach wrth i’r defnydd o ffônau
symudol a thabledi gynyddu. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hyd yma
er mwyn cyrraedd 50,000 o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos.

"Mae Cymru Fyw yn fuddsoddiad
cyffrous a sylweddol mewn gwasanaeth ar-lein yn Gymraeg a bydd yn cynnig darpariaeth
mwy amserol ac unigryw i ddefnyddwyr. Mae angen i ni gydweithio gyda
chyhoeddwyr ar-lein eraill yn y Gymraeg er mwyn sicrhau ein bod yn creu mwy o
argraff. Bydd Cymru Fyw yn helpu defnyddwyr i wneud y gorau o’r cynnwys sydd
ar gael yn yr iaith Gymraeg, ac adnoddau eraill sy'n berthnasol iddynt, ar
draws y rhyngrwyd."

Yn dilyn adolygiad o’r gwasanaethau
digidol yn Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r BBC hefyd wedi penderfynu
canolbwyntio’r buddsoddiad newydd ar bump maes fydd yn cael blaenoriaeth ar
gyfer datblygiad rhyngweithiol/ar-lein. Yn ogystal â’r elfennau a restrwyd
uchod ar gyfer Cymru Fyw ceir:

BBC Radio Cymru ar-lein - sy'n
cynnig cynnwys am wasanaeth BBC Radio Cymru, fel gwybodaeth am raglenni,
blogiau a chlipiau, yn ogystal â'r gallu trwy BBC iPlayer Radio i wrando yn fyw
ac i wrando nôl ar raglenni o'r 7 diwrnod diwethaf

BBC iPlayer - mae rhaglenni
teledu Cymraeg BBC Cymru Wales ar S4C ar gael ar BBC iPlayer

Dysgu - mae hwn yn cynnwys yr holl adnoddau
dysgu yn Gymraeg, e.e. BBC Bitesize, yn ogystal â chynnwys dysgu arall yn
Gymraeg

CBeebies - rydym wedi bod yn gweithio gyda
CBeebies i ddatblygu cynnwys iaith Gymraeg o amgylch brandiau allweddol y
sianel fel Tree Fu Tom, ynghyd â 16 o gemau yn y Gymraeg ar gyfer ystod
ehangach o sioeau megis Numtums,
Timmy Time, Nina and the Neurons, Everthing’s Rosie, Kerwhizz a Driver Dan ac rydym
yn bwriadu datblygu cynnwys newydd yn y dyfodol.

Lluniau Patagonia Tom Griffiths
"Unwaith mae gen i berthynas efo'r person, dwi'n tynnu lluniau gwell," meddai’r ffotograffydd Tom Griffiths sydd yn arddangos ei luniau o Batagonia ar hyn o bryd ar ôl byw yno am bron i chwe blynedd.

Rydyn ni’n gyfarwydd â gweld delweddau o olygfeydd a phobl Patagonia erbyn hyn. O Dai Jones Llanilar i Gruff a Matthew Rhys, ac o 4Wal i ffilm Marc Evans, rydyn ni wedi gweld dipyn o gymuned Gymraeg y Wladfa ar y teledu.

Don Perez Williams gan Tom Griffiths

Ond mae 'na rywbeth agos-atoch sy'n wahanol yn lluniau Tom Griffiths. Efallai mai'r ffaith ei fod wedi bod yn byw neu aros gyda’r bobl sydd yn ei luniau tra roedd yn crwydro Patagonia sy'n rhoi ryw elfen o adnabyddiaeth ac ymddiriedaeth iddyn nhw.

Roedd Tom eisiau tynnu lluniau o rai o’r teuluoedd yno oedd â chysylltiadau â’i ardal enedigol ym Meirionnydd. Aeth i’r Ariannin yn wreiddiol yn 2002 i dreulio tri mis yn gweithio ar brosiect ar gyfer cwrs ffotograffiaeth roedd yn ei ddilyn yn y coleg.

Ond aeth y tri mis yn chwe blynedd, ac mae'n dweud ei fod yn dal heb gyrraedd ei nod o gofnodi’r gymuned Gymreig yno.

Mae’n gobeitho mynd nôl i barhau gyda’i brosiect fis Hydref gan weithio fel bugail er mwyn ariannu’r daith.

Mae ei luniau yn cael eu harddangos yn ystafell Carneddau, Plas yn Dre, Llanrwst o 20 Mai 2013 am fis ac mae rhai hefyd i’w gweld am gyfnod yng nghaffi TH Roberts, Dolgellau.

Ewch i weld detholiad ohonyn nhw ar wefan Darganfod

Dewch i ddarganfod!
Ydych chi wedi ymweld â’n gwefan Darganfod eto?

Darganfod yw cartref newydd cynnwys gwybodaeth a
dysgu BBC Cymru, sy’n cynnwys hanes, gwyddoniaeth, celfyddydau, yr iaith
Gymraeg a llawer mwy.

Mae’n ran o gynllun ar draws y BBC sy’n clymu cynnwys ffeithiol a dysgu at ei gilydd i greu
siwrne ddysgu llyfn, syml a hwyliog.

Fel rhan o’r prosiect yma, mae yna
hafan newydd ar gyfer cynnwys dysgu’r BBC. Mae hwn yn cynnwys adnoddau fel ‘Class Clips’, sy’n chwilio am glipiau archif a diweddar o
raglenni cyffredinol y BBC, a chynnwys dysgu fel ‘Bitesize’.

Mi fydd y system yma yn cael ei datblygu yn fuan i alluogi
chwilio yn ieithoedd cynhenid y DU yn cynnwys Cymraeg ond, yn y cyfamser, gallwch chi ddal i ddefnyddio Clipiau i Athrawon.

Gallwch ddarllen mwy am y
prosiect yma ar ddarn blog Chris Sizemore sef golygydd gweithredol
Knowledge & Learning (Saesneg).

PyC - drama newydd aml-blatfform arloesol
Rydw i’n siwr bod nifer ohonoch chi’n gwybod am y Queen Vic a’r Rovers Return. Maen nhw wedi bod yn rhan gyfarwydd o’n bywydau ers degawdau.

Yng Nghymru, mae ganddon ni Y Deri, y dafarn lle mae trigolion pentref dychmygol Cwmderi wedi bod yn dathlu genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ers bron i 40 mlynedd.

Pobol y Cwm yw opera sebon fwyaf hirhoedlog y BBC ar deledu ac mae’n cael ei chynhyrchu yn stiwdios drama Porth y Rhath yng Nghaerdydd a’i darlledu ar S4C.

Mae gan y gyfres ei dilynwyr ffyddlon ond fel nifer o raglenni sefydledig eraill, un her sy’n wynebu Pobol y Cwm ydy sut i ddenu cynulleidfa ifanc tra’n sicrhau bod y gynulleidfa graidd yn hapus hefyd.

Felly, dros y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn brysur yn sefydlu PYC, sef rhaglen ychwanegol i Pobol y Cwm sy’n canolbwyntio ar fywydau rhai o aelodau iau y cast ac yn cyflwyno rhai aelodau newydd hefyd.

Mae hyn wedi bod yn dipyn o her ac efallai mai elfen fwyaf cynhyrfus y prosiect yw mai dyma’r prosiect aml-blatfform cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg. Yn hynny o beth, mae wir yn teimlo fel petai Pobol y Cwm, y BBC ac S4C yn gallu cynnig rhywbeth gwirioneddol arloesol i’w cynulleidfa Cymraeg eu hiaith.

Mae PyC wedi rhoi cyfle gwych i’r BBC ac S4C weithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio gwahanol dechnegau dweud stori i geisio ennyn diddordeb ein cynulleidfaoedd mewn ffordd newydd. Mae PyC yn dangos ochr mwy pigog, rhywiol Cwmderi.

Mae’n para dros bum pennod sy’n cael eu dangos bob nos rhwng 8fed a’r 12fed o Ebrill.

Bydd y penodau, sy’n cael eu darlledu ar ôl 9pm, yn cael eu dangos ar wefan newydd a fydd hefyd yn galluogi’r gwylwyr i ddod i adnabod y cymeriadau a’r tîm creadigol yn well.

Mae’r wefan wedi ei chynllunio mewn ffordd sy’n caniatáu i bobl sy’n dilyn y gyfres ar eu dyfeisiadau symudol gael profiad sydd llawn cystal â’r rhai sy’n gwylio adref ar eu cyfrifiaduron.

Fel y mwyafrir o bobl ifanc, mae cymeriadau PyC yn gwneud defnydd helaeth o gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch sgwrsio, dadlau a fflyrtio gyda’r cymeriadau ar Facebook a Twitter ond, yn bwysicach fyth, mae natur aml-blatffordd y prosiect yn golygu fod llawer o’r stori yn datblygu ar y platfformau hyn hefyd.

Rydw i’n gobeithio y bydd y gwylwyr yn ymgolli’n llwyr ym myd y stori a pho fwyaf o ran y byddan nhw’n ei gymryd yn y prosiect, po fwyaf y byddwn ni’n gallu gwthio’r naratif i gyfeiriadau gwahanol.

Er hynny, gwyddom hefyd na fydd pawb eisiau profiad hollol interactif ac felly mae’r stori’n datblygu dros gyfnod o bum pennod mewn ffordd mwy arferol hefyd.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd PyC yn dod â chynulleidfa newydd i Pobol y Cwm ond hefyd yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i’n cynulleidfa bresennol brofi ochr o Gwmderi nad ydyn nhw fel arfer yn medru ei gweld yn ystod y bennod nosweithiol arferol am 8pm.

Felly, os cewch chi gyfle, cymerwch gip ar y wefan - s4c.co.uk/pyc/

Hannah Thomas, Cynhyrchydd PyC

@s4cPyC

Facebook

RS Thomas gan Dr Rowan Williams
Heddiw, mae’n ganmlwyddiant ers geni’r bardd Cymraeg RS Thomas.

I nodi’r achlysur, mewn darn arbennig ar y gyfer y wefan hon, mae cyn Archesgob Caergaint a chyn Archesgob Cymru, Dr Rowan Williams, yn ysgrifennu am rai o’r themâu yng ngherddi RS Thomas - ffydd a Chymreictod, ei angerdd a’i duedd o ddadlau ag ef ei hun. Ar Radio Cymru am 6 o’r gloch nos Wener, bydd rhaglen arbennig gyda Dylan Iorwerth yn nodi’r canmlwyddiant, a dydd Sul am 10am bydd cyfle i glywed yr ail ran o raglen arbennig Beti a’i Phobol a ddarlledwyd gyntaf nôl yn 1996. Gallwch glywed y rhan gyntaf, a ddarlledwyd dydd Iau, fan hyn.

Mae dathliadau i nodi’r canmlwyddiant yn digwydd trwy gydol y flwyddyn, ac mae manylion y digwyddiadau a’r prosiectau i’w cael ar wefan RS Thomas 2013.