Blog Cylchgrawn

Y cofnod olaf ... a'r blog newydd
Mae blogiau BBC Cymru wedi newid ac felly mae dyddiau'r blog hwn a sefydlwyd fel Blog Cylchgrawn yn 2009 wedi dod i ben bellach a blog newydd BBC Cymru wedi ei lawnsio.

Dros y blynyddoedd mae'r blog hwn wedi bod yn drysorfa werthfawr o wybodaeth am bynciau celfyddydol a sylwebaeth unigryw ein gohebydd Glyn Evans ar faterion y dydd, felly porwch yr archifau i ymgolli ym mherlau'r bedair blynedd diwethaf.

Gobeithio y cewch yr un mwynhad o fynd at ein blog newydd.

Cofiwch hefyd am flogiau eraill BBC Cymru:

Blog Vaughan Roderick

Blog Radio Cymru

Blog C2

Cymry a Saeson y ffin yn casglu i ddathlu'r Calan
Y penwythnos hwn bydd cannoedd o Gymry yn casglu yng Nghas-gwent fin nos i fartsio tuag at y ffin â Lloegr â baner y Ddraig Goch yn cyhwfan uwch eu pennau.

Byddan nhw'n mynd yno'n uchel eu croch i wynebu criw o Saeson â'u hwynebau wedi eu paentio ac yn martsio dan faner San Siôr.

Ond nid ail-greu hen frwydr o'r gorffennol fyddan nhw ond cwrdd i gynnal dathliad heddychlon sydd wedi'i wreiddio mewn dau draddodiad hynafol sy'n byw ochr yn ochr ar y ffin - Y Fari Lwyd yng Nghymru a'r Wassail yn Lloegr.

Y Fari Lwyd yn yfed diod seidr y Wassail (Llun: Paul Johnson)

Dyma ddathliad blynyddol y Cyfarfyddiad ar y Bont lle mae'r Cymry a'r Saeson yn cyd-yfed, cyd-ddawnsio a chyd-ganu i ddathlu'r Flwyddyn Newydd.

Mae'r digwyddiad yn rhan o ŵyl Wassail a Mari Lwyd Cas-gwent sydd wedi ei chynnal ers saith mlynedd bellach mor agos â phosib at Nos Ystwyll, sef Ionawr 6.

Mae'r Fari Lwyd, penglog ceffyl wedi ei addurno, yn rhan bwysig o draddodiadau dathlu'r flwyddyn newydd yn Nghymru a bydd tua chwech Mari wahanol o bob rhan o Gymru yn dod i'r digwyddiad ddydd Sadwrn, Ionawr 19.

Traddodiad sy'n perthyn i ardaloedd cynhyrchu seidr de a gorllewin Lloegr yw'r 'Wassail' sef yr arfer o fendithio'r coed afalau a gofyn am gynhaeaf da yn y flwyddyn sydd i ddod.

Gallwch weld lluniau o'r digwyddiad y llynedd fan hyn.

Yn ogystal â chyfuno'r Fari a'r Wassail, mae na gymysgu a chreu pob math o draddodiadau eraill.

'Pwnco' - neu ganu'r Sosban Fach - ar risiau'r Amgueddfa (Llun: Paul Johnson)

"Dyma'r traddodiad newydd hynaf yng Nghymru!" meddai Mick Lewis, un o'r sylfaenwyr.

"Ar ôl rhannu diod y Wassail a chyfnewid baner y Ddraig Goch a baner San Siôr ar y bont," meddai Mick, "rydyn ni'n dawnsio gyda'n gilydd ac yn gwahodd y Saeson i mewn i Gymru i yfed a dawnsio.

"Mae 'na gannoedd yn dod i'r Cyfarfod ar y Bont, mae'r lle'n llawn.

"Yna rydyn ni'n arwain prosesiwn i'r Amgueddfa i ganu - neu 'pwnco' - gyda'r Fari Lwyd."

Yn draddodiadol her-ganu byrfyfyr rhwng criw y Fari a pherchennog y tŷ oedd pwnco ond mae'r criw yng Nghas-gwent yn ffafrio'r gân rygbi gyfarwydd, Sosban Fach, medd Mick.

Wedi rhoi llwnc destun i'r tŷ bydd y dathlwyr yn mynd i fwynhau band byw a dawnsio yn nhraddodiad Gwyddelig y Ceilidh.

Mae'r dathliadau'n gymysgedd o rialtwch, cyflwyno dramâu, dawnsio, canu a dathlu ac eleni, mae'r Dyn Gwyrdd yno hefyd sy'n cael ei gysylltu'n bennaf â'r Gwanwyn.

Mae sawl math gwahanol o benglog ceffyl o bob rhan o Gymru a Lloegr yn ymddangos yn y dathliadau (Llun: Paul Johnson)

Cafodd Mick a'i gyfaill Tim Ryan help ariannol gan y Llywodraeth drwy Trac Cymru i adfywio traddodiad y Fari Lwyd yng Nghas-gwent yn wreiddiol. Er fod Trac Cymru bellach yn cynnig Mari Lwyd 'flat pack' aeth Mick ati i baratoi penglog ceffyl yn y ffordd draddodiadol a'i gosod ar bicwarch drwy ddarllen hen gofnodion a llyfrau.

Yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r digwyddiad yng Nghas-gwent ydy'r Dawnswyr Morris 'Cymreig' lleol, y Widders - criw o ffrindiau a chyn feicwyr sy'n dawnsio Morris ac yn gwisgo dillad rhacsiog, het uchel ac yn paentio eu wynebau'n ddu. Maen nhw'n cyd-drefnu'r diwrnod ac yn rhan fawr ohono.

Daeth y syniad o gyd-ddathlu gyda'r Saeson pan sylwon nhw ar y coelcerthi a'r dathliadau Wassail ar ochr arall yr afon a'u gwahodd i ymuno â nhw gan fynd ati i'w gwneud yn ŵyl flynyddol.

Un peth diddorol mae'r ŵyl yn ei amlygu ydy fod 'na draddodiadau gwahanol yn ymwneud â phenglog ceffyl yn perthyn i rannau o Loegr a thu hwnt hefyd, fel yr Obby Oss yng Nghernyw, y Laare Vane (Y Gaseg Wen) o Ynys Manaw a'r Poor Awd Oss o Ogledd Lloegr sy'n gwneud ymddangosiad yn yr ŵyl hon.

Mae gwreiddiau'r symbol hwn yn ddwfn mewn arferion hynafol o'r cyfnod cyn-Gristnogol ac, yn ôl rhai, yn adlewyrchiad o'r cyfnod pan ddaeth y ceffyl yn anifail mor werthfawr i ddyn. Cred eraill ei fod yn gysylltiedig â chwedl Rhiannon yn y Mabinogi neu â seremonïau ffrwythlondeb.

Syllu ar y sêr
Ydych chi byth yn edrych i fyny ar yr awyr dywyll uwchben, i weld y cyfoeth o sêr yn y duwch? Os ddim, dyma'r amser i ddechrau!

Mae hi'n gyfnod Stargazing ac felly yr amser perffaith i ddysgu sut mae astudio awyr y nos.

Sêr dros Gwm Idwal gan Kristofer Williams

Efallai eich bod chi wedi gwylio rhaglenni Stargazing ar BBC2 yr wythnos yma ac wedi cael eich ysbrydoli i fynd allan ac edrych i fyny eich hun, er mwyn gweld rhyfeddodau fel y lluniau sydd i'w gweld ar wefan Stargazing LIVE fan hyn.

Rhai tips i'ch rhoi chi ar ben ffordd:

Ewch oddi wrth oleuadau adeiladau/goleuadau stryd ar noson glir gyda thywydd da. Mae'r lleuad llawn hefyd yn gallu cuddio llawer o sêr, felly noson pan nad yw'r lleuad yn dangos sydd orau.

Defnyddiwch fap o'r sêr fel yr un sydd yng nghanllaw Stargazing Live.

Mae cwmpas yn gallu bod yn ddefnyddiol, er mwyn ffeindio'r Gogledd a gwneud adnabod sêr yn haws.

Ewch gyda ffrindiau, neu ymunwch â chlwb seryddiaeth lleol.

Gall camera fod yn ddefnyddiol - dydych chi byth yn gwybod be welwch chi.

Does dim rhaid i chi fynd i wylio'r sêr ar eich pen eich hun gan fod sawl digwyddiad ar draws Cymru y penwythnos yma ac yn ystod yr wythnos i ddod, a dyma rai ohonyn nhw:

Hwlffordd

Nos Wener Ionawr 11: Gwylio'r sêr yn y Preseli, 7 - 10pm

https://meleleh.pages.dev/thingstodo/activity/stargazing-live-in-preseli/occurrence/211830

Bro Morgannwg

Nos Sadwrn Ionawr 12: Gwylio'r Sêr yn Gerddi Dyffryn, 7 - 9pm

https://meleleh.pages.dev/thingstodo/activity/stargazing-at-a-dark-national-trust-garden/occurrence/215962

Caerdydd

Dydd Sadwrn Ionawr 12: Diwrnod Stargazing i'r teulu yn yr Amgueddfa Genedlaethol, 11am - 4pm

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=6280

Pen-y-bont ar Ogwr

Nos Fercher Ionawr 16: Noson gyda'r sêr yn Ysgol Gyfun Bryntirion, 5 - 9pm

https://meleleh.pages.dev/thingstodo/activity/a-night-among-the-stars/occurrence/228490

Abertawe

Nos Wener Ionawr 18: Noson o wylio'r sêr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 7pm

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=6073

Cofio'r enigma, Dic Aberdaron
Mae Bryn Fôn wedi canu amdano, Jan Morris wedi sgwennu amdano a T H Parry Williams ac R S Thomas wedi barddoni amdano. Ac er bod dros 200 mlynedd wedi pasio ers geni'r ieithgi ecsentric a'r carwr cathod, Dic Aberdaron, mae ei enw yn dal i fod yn un cyfarwydd i Gymry heddiw.

Dic Aberdaron (Richard Robert Jones) (1780-1843), gan William Roos, c.1850, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Crwydryn hunanaddysgedig oedd yn adnabyddus am ei allu i ddysgu ieithoedd oedd Dic, neu Richard Robert Jones o roi ei enw llawn. Honnai ei fod yn gallu siarad 15 o ieithoedd.

Bu farw ar Ragfyr 18 1843 yn 63 oed ac mae wedi ei anfarwoli hyd heddiw mewn cân, celf a chof llawr gwlad. Yr enghraifft ddiweddaraf o'r anfarwoli hwn ydy'r paentiad olew ohono sydd ymysg y lluniau sydd bellach i'w gweld ar wefan Your Paintings y BBC sydd newydd gwblhau ei tharged uchelgeisiol o gasglu holl baentiadau olew gwledydd Prydain sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus. Am y tro cyntaf, maen nhw i gyd i'w gweld ar y we.

Mae'n brosiect ar y cyd rhwng y BBC a'r Public Catalogue Foundation (PCF).

Mae 211,861 o ddarluniau bellach ar y wefan - 12,500 ohonyn nhw o Gymru gan gynnwys gwaith Claudia Williams, Donald McIntyre, Kyffin Williams, Tunnicliffe, Edward Povey, Shani Rhys-James ac Augustus John, i enwi dim ond rhai.

Daw paentiad Dic Aberdaron o gasgliad yr arlunydd William Roos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: gallwch weld mwy o'r casgliad, sy'n cynnwys portreadau o Twm o'r Nant a Christmas Evans, ar wefan Your Paintings.

Yn ôl yr hanes, dysgodd Dic Aberdaron Ladin yn 12 oed a nifer o ieithoedd eraill wedi hynny.

Rhoddodd heibio gyfle i ennill bywoliaeth ar y môr, fel ei dad a oedd yn saer llongau yn Aberdaron, a threuliodd weddill ei oes yn crwydro Cymru a thu hwnt gyda'i lyfrau a'i gath yn byw ar gardod ac yn astudio ei lyfrau a chyfieithu.

Roedd yn gymeriad adnabyddus iawn yn ei ddydd a bu'n lwcus iawn o haelioni noddwyr a roddai loches ac arian iddo o bryd i'w gilydd er mwyn hyrwyddo'i astudiaethau. Ysgrifennodd eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ond ni chafodd ei gyhoeddi erioed.

Awgrymodd Jan Morris, a ysgrifennodd amdano yn ei llyfr The Matters of Wales, mai darganfod ei allu i ddysgu ieithoedd oedd ei ddiwedd gan iddo droi ei gefn ar waith a bywyd confensiynol a dod yn drempyn am weddill ei oes er mwyn dilyn ei ddiléit mewn llyfrau.

Ar ei fedd ym mynwent y plwyf yn Llanelwy, lle bu farw, mae'r englyn yma gan Ellis Owen:

Ieithydd uwch ieithwyr wythwaith, - gwir ydoedd,

Geiriadur pob talaith:

Aeth Angau â'i bymthengiaith;

Obry'n awr mae heb r'un iaith.

Ysgrifenodd TH Parry Williams amdano yn bur ddirmygus yn ei Rigymau sy'n cynnwys y llinell 'Nid yw pawb yn gwirioni'r un fath' tra rhoddodd RS Thomas ddarlun mwy ystyriol a dwys ohono sy'n ceisio ateb y cwestiwn, pwy yn union oedd Dic Aberdaron?

Trempyn llengar, athrylith aeth ar gyfeiliorn, diniweityn cyfrwys, sgamiwr, polyglot eangfrydig oedd o flaen ei oes, neu berson cyffredin â gallu hynod?

Pwy a ŵyr?

Mae mwy o luniau ohono a gwrthrychau eraill i'w gweld yng Nghasgliad y Werin  ond er y dystiolaeth weledol a hanesyddol, mae Dic Aberdaron yn parhau'n enigma hyd heddiw.

Nia Lloyd Jones - dydd Sadwrn Awst 11
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar y llwyfan oedd Cystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis i rai dos 21 oed. Roedd hon yn chwip o gystadleuaeth gyda Dafydd Jones ac Edryd Williams - dau eisteddfodwr profiadol iawn - a Mair Tomos Ifans ar y llwyfan. Tydy Mair ddim wedi cystadlu ers blynyddoedd ond fe gafodd hi andros o hwyl dda ar y llwyfan - a hi enillodd heddiw. Edrych ymlaen i dy weld ti yn Ninbych flwyddyn nesa rwan Mair.

Llongyfarchiadau mawr i Esyllt Tudur ar ennill yr Unawd Cerdd Dant agored. Mae Esyllt eisoes wedi ennill y Llwyd o'r Bryn, a gwobr Lady Herbert Lewis, felly dyma hatrick go iawn.

Dw i ddim isio i chi feddwl fod gen i rhyw obsesiwn hefo JPR Williams, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod hi'n braf ei weld o unwaith eto gefn llwyfan, a'r tro yma doedd o ddim yno yn rhinwedd ei swydd fel stiward. Cystadleuydd oedd o y tro hwn - gan ei fod o yn aelod o Gôr Meibion y Machlud - ac yn canu dan arweiniad un o'r Dyniadon Hirfelyn Tesog sef Eric Dafydd.

Y penwythnos diwethaf roedd Mike Williams ar y llwyfan yn arwain côr o ferched o Lundain, a heddiw roedd ganddo gôr meibion sef Eschoir. Ro'n i'n amau mai gwerthu teis oedd Gareth, un o'r aelodau, wrth y drws yng nghefn y llwyfan, ond erbyn gweld aros i weddill yr aelodau gyrraedd oedd o!

Diwrnod y corau meibion ydy dydd Sadwrn, a llongyfarchiadau mawr i Gôr Llangwm ar ennill y gystadleuaeth i Gorau Meibion hyd at 45 mewn nifer. Ond druan ag un o'r aelodau - sef Alun. Roedd Alun wedi dod i lawr yn y car a'r garafan yn eu dilyn ond fe wnaeth 'na gar arall ddreifio i mewn i'r garafan, nes ei bod hi'n llanast. O gofio bod Alun yn bwriadu mynd yn syth o'r Eisteddfod ar ei wyliau i Ffrainc doedd ond un peth amdani - prynu pabell! Gobeithio caiff o amser gwych yn honno.

Roedd hi'n andros o boeth gefn llwyfan heddiw ac un oedd yn teimlo'r gwres oedd Rhian James. Mae Rhian yn aelod o Ddawnswyr Caerdydd ac o dan y wisg frethyn roedd ganddi bais a theits hefyd!!

Os oes 'na un perfformiad yn aros yn y cof heddiw - perfformiad Côr Meibion Rhosllanerchrugog o 'Rondes' gan Folke Rabe ydy hwnnw. Darn heb eiriau ydy hwn - lle mae'r côr yn gwneud pob math o synnau gwahanol - gan gynnwys sibrwd eu rhif ffôn a newid lleoliad hefo'r person drws nesa! Wir i chi - welais i erioed unrhyw beth tebyg i hyn o'r blaen ond fe gawson nhw hwyl arbennig o dda ar y llwyfan heddiw - a chipio'r wobr gyntaf am yr ail flwyddyn yn olynnol.

A dyna ni - Eisteddfod arall wedi dod i ben, a finna wedi cyfarfod llu o gystadleuwyr newydd a nifer o hen stejars hefyd. Diolch o galon i bawb am fod mor barod i sgwrsio, ac os byw ac iach, fe fyddwn ni gyd yn ôl yn Ninbych flwyddyn nesa. Dw i'n edrych ymlaen yn barod!!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Nia Lloyd Jones - nos Wener Awst 10
Noson y corau oedd hi neithiwr...

Dim ond un Côr Cerdd Dant oedd yn cystadlu - sef Côr Merched y Ddinas. Owain Sion sy'n hyfforddi'r merched ac mae nifer o'i geinciau o wedi cael eu clywed yr wythnos yma.

Un ohonyn nhw - yn gynharach yn yr wythnos oedd 'Fflur' - cainc er cof am Fflur Bedwyr - fu farw'n rhy gynnar o lawer, a braf iawn oedd gweld teulu a ffrindiau Fflur yn y Pafiliwn yn gwrando ar y gystadleuaeth dan sylw sef y parti Cerdd Dant dan 21 oed.

Un peth faswn i byth yn medru ei wneud ydy bod yn aelod o Gôr Llefaru - a hynny oherwydd y byddai gen i ormod o ofn dod i mewn yn y lle anghywir. Ond roedd 'na dri côr llefaru ar y llwyfan a Chôr Sarn Helen enillodd neithiwr. Elin Williams sydd yn eu hyfforddi nhw a nos Iau - fe benderfynodd hi ymuno hefo nhw ar y llwyfan! Dewr iawn!

Mae ambell i aelod o Gôr Eifionnydd wedi bod yn ddigon anlwcus yr wythnos yma - dyna chi Jeremy sydd wedi colli ei ddau ddant blaen ar ôl bwyta hufen iâ hefo fflêc ar y maes, a Meurig wedyn sydd a'i fraich mewn sling. Ond tydy mân broblemau felly yn effeithio dim ar y côr a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar ennill y côr alaw werin, dan arweiniad Pat Jones.

Braf iawn oedd gweld côr newydd o Ynys Môn ar y llwyfan hefyd - sef Harmoni. Dyma eu ymddangosiad cyntaf nhw a dw i'n sicr y gwelwn ni lawer mwy ohonyn nhw yn eisteddfodau'r dyfodol.

Y corau cymysg oedd yn cloi y cystadlu neithiwr. Un o'r corau ar y llwyfan oedd Cymdeithas Gorawl Llanuwchllyn - yn canu dan arweiniad Mary Lloyd Davies. Dw i'n siwr mod i wedi enwi Mary o leiaf bump gwaith bob diwrnod - gan ei bod hi wedi hyfforddi tua 30 o gystadleuwyr yn ystod yr wythnos. Roedd ganddi naw cystadleuydd yn yr un gystadleuaeth nos Fercher - sef yr Unawd Sioe Gerdd!

Ond Cordydd oedd yn fuddugol unwaith eto eleni - dan arweiniad Sioned James, ac un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod i mi oedd eu perfformiad o Gwawr y Bore - sef trefniant o un o ganeuon Dolly Parton, Light of a Clear Blue Morning.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Nia Lloyd Jones - dydd Gwener Awst 10
Urddo Carwyn, Iwan a John

Dechrau'r dydd hefo'r Prif Weinidog bore 'ma - wrth i Carwyn Jones baratoi i fynd at y Maen Llog i gael ei urddo.  Roedd o'n ymhyfrydu yn yr anrhydedd a gan nad oes 'na wisg goch yn yr Orsedd - roedd yn rhaid iddo fodloni ar wisgo gwisg las heddiw.

Un arall oedd yn cael ei urddo oedd Iwan Roberts - neu Iwan Gwynedd - fel y'i gelwir yn yr Orsedd. Mae o wedi gwisgo kit glas gydag ambell i dim pêl-droed yn ystod ei yrfa, felly roedd o'n ddigon bodlon ei fyd. Roedd John Hartson yn cael ei urddo hefyd, ac mae'n debyg nad oedd o'n or awyddus i wisgo'r lliw glas - gan mai dyna liw kit pêl-droed Rangers, ac wrth gwrs fe fu John yn chwarae i Celtic!

Y cerdd dantwyr yn cofio'u taid

Un o'r cystadlaethau gorau yn yr Eisteddfodd yr wythnos yma oedd yr un i'r triawdau neu bedwarawdau Cerdd Dant. Lois, Annest, Enlli ac Alaw enillodd heddiw, ac mi roedden nhw yn cystadlu dan amgylchiadau digon anodd.  Mae Lois ac Annest yn chwiroydd ac yn gyfnitherod cyntaf i Enlli ac Alaw - sydd hefyd yn chwiorydd.  Dyma chi genhedlaeth iau teulu Hendre Cennin, a fis yn ôl fe fu farw taid y genod, ac fe benderfynon nhw gystadlu - er cof amdano.  Yn naturiol ddigon roedd 'na ddagrau gefn llwyfan ar ôl i'r teulu glywed y canlyniad.

Ffarmwrs Aberhosan yn cyrraedd y brig

Mae hi wedi bod yn ddiwrnod mawr i bentref bach Aberhosan heddiw - wrth i ddau ffermwr o'r pentref gystadlu ar y llwyfan. Erfyl Tomos Jones enillodd yr unawd bariton, ac yntau yn cystadlu am y tro cyntaf, felly mae o'n mynd i fod yn cystadlu am y Rhuban Glas yfory, ac efallai y bydd o yn efelychu camp ei frawd - enillydd Rhuban Glas 2008 - sef Meirion Wynn Jones.

Y ffarmwr arall oedd Meilir Wyn Jones, ac ar un llaw mae'n beth da nad ydy o wedi mynd drwodd i'r gystadleuaeth fory - gan ei fod o yn was priodas i un o'i ffrindiau yfory ... yn Llanelwedd!

Priodasau lodesi Bro Ddyfi

I aros ym Mro Ddyfi - mae'n gyfnod priodasau ar barti Lodesi Dyfi - mae Elinor newydd briodi ac fe fydd Lowri yn priodi dydd Sadwrn nesa!  Mae'r gweddill i gyd wedi gadael eu gwŷr adref yn y gwair!

Sôn am y Rhuban Glas - llongyfarchiadau mawr i Nest Jenkins ar ennill y Rhuban Glas Offerynnol, a dymuniadau gorau iddi yn yr Ŵyl Delyn yn Bangkok.

Diolch am yr het!

Roedd hi'n boeth iawn gefn llwyfan heddiw - a diolch i Dan Puw am gael menthyg yr het wellt.  Roedd Dan ar y llwyfan yn arwain parti alaw werin Meibion Llywarch - a ngwaith i yn ystod y pum munud hwnnw oedd gwarchod yr het!

Sôn am Feibion Llywarch - r'on i wedi sylwi ar yr hogyn ifanc yma gefn llwyfan - yn gwylio'r sgrin tra roedd y parti ar y llwyfan.  Ar ôl dechrau sgwrsio - dyma ddallt mai Llywarch oedd ei enw - a'i fod o wedi cael ei enwi ar ôl y parti!

Dw i'n gweithio'n hwyr heno - felly gewch chi hanes cystadlu'r nos gen i fore Sadwrn.

Mwy am Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, clipiau, canlyniadau, newyddion ac i wylio'r Pafiliwn yn fyw ewch i'n gwefan bbc.co.uk/eisteddfod

Rhun ap Iorwerth - dydd Iau Awst 9
Ble’r aeth haf 2012? Ble’r aeth y glaw a’r gwynt a’r oerfel?

Rydan ni wedi cael ein gwibio i fyd a thymor arall. Byd yr haul a’r hufen iâ. Byd y ‘sgwyddau cochion a’r fflipiau fflop. Yr ymbarél wedi arallgyfeirio a’i throi’n barasol.

A wnaethoch chi amau? A broffwydoch chi wae y caeau mwdlyd a’r wellingtons? Wel, llyncwch eich geiriau cyn gyflymed a’ch peint oer yn y Bar Gwyrdd ar y maes, achos mae’r haul wedi tywynnu efo’i holl enaid ar Fro Morgannwg heddiw.

Gyda’r rhagolygon yn addo mwy o’r un peth, dwi’n siwr y byddwn yn ffeilio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012 yn yr un ffeil ag Aberteifi 1976 a Meifod 2003 – dan ‘P’ am ‘Poeth’. Ond bydd  ambell unigolyn yn ei ffeilio dan ‘C’ am ‘Carreg Filltir’.

Bu Steffan Rhys Hughes o Sir Ddinbych yn enillydd eisteddfodol cyson ers yn blentyn bach. Dyn a wyr sawl gwobr gyntaf sydd ganddo i’w enw, yma yn y Genedlaethol ac yn yr Urdd, heb sôn am eisteddfodau bychain dirifedi. Ond eleni, mae’n troi’n ddyn, a gyda 6 gwobr gyntaf yn ei boced, bydd yn ei throi hi am Gaerdydd a’r Coleg Cerdd a Drama fis nesaf gyda’r teitl ‘Canwr Proffesiynol’ yn dod yn nes.

Fe ddaeth Steffan Harri â gwen i wynebau pawb yn y pafiliwn a’r gynulleidfa deledu gyda’i berfformiad gwych, doniol, cyflawn a hyderus yn yr Unawd Sioe Gerdd dros 19 oed. Mi fydd ei enw mewn sêr yn y West End cyn hir, heb os.

Nid fo enillodd y gystadleuaeth honno hyd yn oed (er iddo dderbyn Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts am ei berfformiad). Fe aeth y wobr gyntaf i Elgan Llyr Hughes o Landudno. Rwyf wedi cael y pleser o arwain ambell i gyngerdd lle mae Llyr wedi bod yn canu. Mae’n ŵr ifanc, bonheddig, ond dyma i ni dalent. Drannoeth yr Unawd Sioe Gerdd fe enillodd un o gystadlaethau mawr yr Unawdwyr Clasurol – Gwobr Goffa Osborne Roberts  – ar ôl dod i’r brig mewn dwy o’r cystadleuthau rhagbrofol – yr Unawd Gymraeg a’r Unawd Operatig.

Llundain yw’r stop nesaf iddo fo. Mae o newydd dderbyn gradd Dosbarth Cyntaf o Fanceinion a’r cam nesaf yw’r Guildhall yn Llundain. Paratowch i glywed llawer, llawer mwy amdano.

Byddwn yn dathlu llwyddiannau’r tri yna mewn blynyddoedd i ddod, heb os. Ond tra y gwnawn ni hynny, gadewch i ni gofio mor bwysig fu’r Eisteddfod wrth gynnig llwyfan iddyn nhw ar ddechrau eu gyrfaoedd. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y ddau Steffan a Llyr wastad yn trysori’r cyfle unigryw Gymreig yma ddaeth i’w rhan.

Ymddiheuriadau, gyda llaw, am beidio blogio am y deuddydd diwethaf. Y gwir ydi bod Eisteddfod yn ddi-stop - yn fwrlwm o sgwrsio, o wylio, o wrando, o fwyta ac o fwynhau. Maddeuwch i fi!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Iolo ap Dafydd yn crwydro'r Maes dydd Iau Awst 9
Dwi wedi penderfynu nad ydy Olympiad Llundain yn ddim i'w gymharu â marathon y Steddfod. Mi allai athletwyr yn ne Lloegr ddysgu llawer o allu perfformwyr a chystadleuwyr Eisteddfod Bro Morgannwg.

Mi ges i brofiad newydd neithiwr yn gwylio campweithia unawdwyr y Sioe Gerdd dros 19 oed, Gwobr Goffa Richard Burton a Towyn Roberts. Sôn am dechneg. Tonyddiaeth a llefaru llawn angerdd. Dyma sy'n digwydd ichi pan 'da chi yn aros yn y Steddfod am sawl diwrnod, ond ma' gwrando ar feirniadaethau a'r arbenigwyr sy'n cael eu holi yn help hefyd.

Ynghanol y perfformwyr yma, mae to nesaf a chenhedlaeth broffesiynol newydd Cymru. Nifer eisoes yn byw a gweithio ymhell o Landŵ, ac o Gymru, yn gwneud eu marc. Cymerwch y tenor Elgan Llyr Thomas - mae e wedi ennill pedair cystadleuaeth hyd yn hyn, ac wedi denu mwy o edmygwyr a chefnogwyr.

Yn ystod darllediad prynhawn heddiw ar S4C, mi wnaeth Elgan gymaint o argraff wrth gystadlu am wobr ac Ysgoloriaeth Osborne Roberts fel bod dagrau yn llygaid y beirniad a'r tiwtor canu Leah Marian Jones a oedd yn cadw cwmni i'r cantor mwyn Rhys Meirion ar y soffa wrth fy ochr. Doedd fawr o bwynt holi pwy roddodd y perfformiad mwyaf cyflawn na phwy oedd y mwyaf angerddol na chwaith y mwyaf meistrolgar yn dechnegol ... ia, y boi Thomas yna oedd o ac mi fyddwch chi'n clywed a gweld llawer mwy o'r llanc o Landudno.

A sôn am Rhys Meirion, gall o ddim colli cyfle y dyddiau yma i gyfeirio at ei ymdrech o ag eraill i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mi wisgodd grys i'n hatgoffa ni o'i daith gerdded ar ôl y Steddfod. Fedra i ddim cymeryd rhan gan y byddai ar fy ngwyliau, ond mi fydd llawer yn cyd-gerdded ac yn bwysicach yn codi arian ar gyfer achos teilwng.

Mi gawson ni hwyl hefyd yn atgoffa'n hunain o pan fu'r ddau ohonom un haf gwlyb (arall) ym 1987 yn labro a gweithio gyda chwmni codi pebyll ar y Maes cyn ac ar ôl Eisteddfod Porthmadog - yn agos iawn i gartref Rhys ar y pryd.

Siwr gen i fod cenhedlaethau o Gymry wedi slafio ar faes y Steddfod er mwyn clirio dyledion coleg ac mae'n hwyl hel atgofion. Y diweddar Barry Sawyer oedd y fforman. Dyn caled, ond teg yn ôl Rhys, ac allai ond cytuno. Mi fu'n gyfrifol i gael sawl Stedddfod yn barod yng ngwyneb trafferthion mawr ar adegau. Mi weithiais i gyda 'nghefnder Sion yn Steddfod stormus a mwdlyd Abergwaun hefyd - ond stori arall ydy honno!

Mae'r haul o'r diwedd wedi cyrraedd Bro Morgannwg a mwd eleni yn sychu'n lyfli. Felly, mae'r cwrw a'r hufen iâ yn gwerthu'n dda a gobeithio hefyd y bydd y cryno ddisgiau a'r llyfrau, y cardiau a'r crysau-t yn gwneud yr un modd. Wedi'r cyfan mae pawb yn chwilio am elw, ond hyd yma elw gorau'r wythnos imi ydy treulio cymaint o amser yn siarad am bopeth dan haul - i gyd yn y Gymraeg.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Nia Lloyd Jones - dydd Iau Awst 9
I'r Eisteddfod o bedwar ban byd.

O'n i wedi bod yn chwilio amdano fo drwy'r wythnos, a bore 'ma mi welais i o yng nghefn y llwyfan. Shay Siwoku ydy o - a mae o'n stiwardio yn yr Eisteddfod ers 2008. Mae Shay wedi dysgu'r Gymraeg yn arbennig o dda ac wrth ei fodd yn gwirfoddoli yn yr Eisteddfod, ac mae'r Wyl fel aduniad bach i'r ddau ohonom ni bellach - braf iawn oedd rhoi'r byd yn ei le eto bore ma.

Yn sicr roedd 'na naws ryngwladol gefn llwyfan heddiw. Un o Wlad Pwyl ydy Lukasz Biela yn wreiddiol er ei fod o bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae o'n siarad wyth iaith - Pwyleg, Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Portiwgieg, Saesneg, iaith Siec a'r iaith Serbiaidd ... a dipyn bach o Gymraeg erbyn hyn. Mi welais i o eto cyn cinio - yr adeg hynny roedd o wrthi'n rhoi sesiwn Reikki i droed y gyfeilyddes Eirian Owen - gan ei bod hi wedi brifo ei throed yr wythnos yma. Dyn amryddawn iawn mae'n amlwg. Isaías Grandis o Batagonia ydy enillydd Tlws y Dysgwyr eleni, ac yn sicr roedd cael sgwrs hefo fo yn un o uchafbwyntiau'r dydd i mi. Dyma chi siaradwr gwych, a thinc Sbaeneg yn y llais hefyd. Fe symudodd o'r Ariannin i Batagonia pan oedd o'n bedair oed, ac erbyn hyn mae o'n gweithio fel tiwtor iaith yno ac yn awyddus i hyrwyddo'r Gymraeg i bob cyfeiriad o'r Wladfa. Doniol iawn oedd clywed ei stori am ei ymweliad â McDonald's yn ddiweddar - ac yntau ddim yn siarad Saesneg. Diolch byth roedd na Gymro wrth law i weini'r byrgyr iddo. Mi wnes i gwrdd ag Ian Samways o Pittsburgh yn yr Eisteddfod yn Wrecsam llynedd. Roedd o wedi dod draw i gystadlu ar y Llefaru Unigol Agored i'r Dysgwyr, ac wedi mwynhauei hun gymaint nes ei fod o nôl eto eleni. Mae o'n mwynhau canu carioci hefyd - a'i hoff gân ydy'r berl Sinatraidd - My way. Llongyfarchiadau mawr i Gôr y Wiber - dan arweiniad Angharad Thomas am ennill y gystadleuaeth Côr Merched heddiw. Dw i wrth fy modd yn sgwrsio hefo Angharad - gan ei bod hi'n un o'r bobl mwyaf egnïol dw i erioed wedi cyfarfod. Roedd y wên ar ei wyneb heddiw yn werth ei gweld.

Os oedd ddoe yn ddiwrnod mawr i Elgan Llyr Thomas - roedd heddiw yn well byth. Elgan enillodd Wobr Goffa Osborne Roberts - sef y Rhuban Glas. Pan ofynodd gohebydd papur newydd iddo wedyn os mai dyma binacl ei yrfa - fe atebodd mai dyma'r pinacl hyd yma - ond bod mwy i ddod! Cofiwch yr enw...

Prynhawn y sopranos, contraltos a'r mezzo sopranos oedd hi wedyn. Sut wnaeth Helen Gibbon - y soprano - fwynhau tybed? 'Ych a fi' oedd ei ymateb heddiw! Mae Iona Stephen Williams wedi ennill yr Unawd Contralto wyth gwaith, ac roedd hi nôl ar y llwyfan unwaith eto. Fe ddaeth Catrin Rowena Davies - y mezzo soprano i'r llwyfan ddiwedd y prynhawn - i gloi'r naws ryngwladol. Mae hi'n byw yn Baltimore, ond bod ei rhieni yn hannu o Gymru yn wreiddiol, ac wrth gwrs - roedden nhw yn ogystal â'i chariad yn y pafiliwn i'w chefnogi heddiw.

A dyna derfyn ar ddiwrnod prysur iawn arall... dw i angen mynd i orwedd lawr mewn cornel dywyll!

Molawd i'r mwd
Fel merch o gefn gwlad Meirionnydd mae gen i gywilydd cyfadde' hyn, ond y tro diwethaf imi fod yn berchen ar bâr o welingtons, mam oedd wedi eu prynu nhw imi. Tan 'leni.

Ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri a'r Cylch 2012 fis yn ôl - gŵyl oedd yn morio mewn mwd - y prynais i fy mhâr cyntaf o welingtons erioed efo fy mhres fy hun, ac mae hynny'n dweud lot o ystyried faint o Steddfodau dwi wedi bod iddyn nhw dros y blynyddoedd.

A diolch byth eu bod nhw gen i ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg achos fe wnes i eu gwisgo nhw bob dydd tan dydd Gwener. Wedi hynny daeth yr haul tanbaid mewn pryd i sychu'r pyllau mwdlyd i sicrhau dyddiau olaf gogoneddus o hafaidd yn Llandŵ.

Ond pam felly ein bod ni'n mynnu cynnal Prifwyl ddiwylliannol Cymru, y ffenest siop ar gyfer uchelfannau'r celfyddydau Cymreig, mewn pebyll ar gae mwdlyd bob blwyddyn?

Wel, fe gefais i'r ateb o amgylch y tân yn y maes carafanau un noson yr wythnos hon gan Carys Hedd, un o'r rhai sydd wedi trefnu'r Maes Gwyrdd newydd eleni. Fe wnaeth hi fy atgoffa o'r cysylltiad agos rhwng yr iaith a'r tir.

Carys Hedd ar faes Prifwyl 2012 - "daw'r iaith o'r tir a'r tir o'r iaith"

Er ei bod yn cyfaddef mai prin, at ei gilydd, ydy'r rhai sy'n gallu siarad am faterion amgylcheddol yn Gymraeg, soniodd Carys am frwdfrydedd nifer o'r amgylcheddwyr sy'n symud i mewn i Gymru dros yr iaith. Fe deimlai hi fod cadwraeth y naill beth a'r llall yn mynd law yn llaw a'u bod nhw'n perthyn i'w gilydd.

Y cysylltiad efo'r tir sydd wedi cadw'r iaith yn fyw dros y canrifoedd, atgoffodd, ac mae hynny mor berthnasol yn yr oes yma o gyni ag oedd yn oes ein cyndeidiau oedd yn byw ar y tir ac yn gofalu amdano.

Dim syndod deall felly mai bywyd a gwaith Iolo Morganwg, dyfeisydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ac, fel rydyn ni wedi ei glywed sawl tro yr wythnos yma, cymwynaswr bro a gwlad oedd yn gymaint mwy 'na breuddwydiwr oedd yn gaeth i laudanum, oedd yr ysbrydoliaeth i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed i sefydlu'r gornel werdd yma o'r maes eleni.

Ymdrybaeddwn, felly, ym mwd Morgannwg! Ai greddf sy'n ein tynnu i gae bob blwyddyn?

Holl fanylion yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg ar wefan bbc.co.uk/eisteddfod

Nia Lloyd Jones: Cefn llwyfan nos Fercher
'Dwi bob amser yn mwynhau bod gefn llwyfan nos Fercher - a doedd neithiwr ddim gwahanol.

Ceri Wyn enillodd Wobr Richard Burton, ac roedd 'na hen ddathlu gefn llwyfan wedyn gyda'i rhieni a'i ffrindiau. Mae Ceri yn actores ddawnus iawn - newydd raddio o Goleg Academi Mountview yn Llundain, ac roedd ennill y wobr hon yn goron ar y cyfan iddi.

Fe gafodd Elgan Llŷr Thomas ddiwrnod ffantastig ddoe - gan ennill yr unawd Gymraeg a'r unawd operatig. Wedyn neithiwr, fe enillodd yr unawd o sioe gerdd.  Roedd o eisoes wedi ennill yr unawd o sioe gerdd dan 19 oed. Hon oedd ei flwyddyn olaf o dan 25 oed, ac mi ddywedodd o gefn llwyfan bod rhaid iddo rwan ystyried canu llai o ganeuon sioe gerdd - er mwyn canolbwyntio ar fod yn ganwr opera proffesiynol.

Llongyfarchiadau mawr i Steffan Harri am ennill Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts neithiwr.  Fe swynodd o'r gynulleidfa gyda'i berfformiad o Tu Hwnt i Sbri - allan o sioe gerdd weddol newydd sef Home Made Fusion, Kooman a Diamond.  Yn y gân roedd o'n erfyn am sylw Claire ac yn sicr fe hawliodd o sylw pawb yn y Pafiliwn neithiwr.

Roedd 'na ddawnsio ar y llwyfan neithiwr hefyd wrth i ddawnswyr Penrhyd, Talog a Bro Taf gystadlu yn y parti dawns dan 25 oed ac un o gyfeilyddion ffyddlonaf Dawnswyr Penrhyd ydy'r ffidlwr, Eifion Price. Roedd o wedi cael diwrnod prysur iawn ddoe - gan ei fod o hefyd yn aelod o gwmni drama'r Gwter Fawr ac mi roedden nhw yn perfformio drama Mel Williams, Claddu'r Ceiliog, yn Theatr y Maes amser cinio.

Fe benderfynodd y beirniaid rannu Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts rhwng dwy, sef Menna Cazel Davies ac Elin Pritchard.  Mae Menna newydd raddio ac ar ei ffordd i astudio cwrs meistr yn yr Almaen.  Mae hi hefyd yn hoff iawn o weu, ac wedi addo gweu sgarff i mi! Hogan o Rhyl ydy Elin yn wreiddiol, ond ar hyn o bryd yn byw yn Surbiton yn Surrey.  Mae hi wrthi'n perfformio hefo Cwmni Opera yr Alban ac yn mynd i astudio yng Nghanolfan Opera Genedlaethol Llundain ym mis Medi.

Yn naturiol roedd y ddwy wedi gwirioni'n lân gefn llwyfan ac yn falch iawn o'r hwb ariannol.

Y côr olaf ar y llwyfan neithiwr oedd Côr Meibion Glantaf - criw o ddisgyblion a chyn ddisgyblion Ysgol Glantaf; a chwarae teg iddyn nhw, fe dalon nhw deyrnged i'w hyfforddwraig Delyth Medi am geisio cael trefn gerddorol arnyn nhw.  Doedd hynny ddim yn hawdd chwaith gan fod nifer ohonyn nhw wedi bod ar wyliau yn Ibiza a Zante ar ôl gwneud eu Lefel A, a beryg nad oedd 'na fawr o ymarfer canu wedi bod yn y fan honno!

Nôl i gefn llwyfan rŵan am ddiwrnod prysur arall ...

Nia Lloyd Jones - bore Mercher Awst 8
Wel sa Mam wedi bod wrth ei bodd yng nghefn y llwyfan bore ma. Mae hi'n ffan rygbi go iawn a phwy feddyliech chi oedd yn stiwardio gefn llwyfan? Neb llai na un o gewri'r gorffennol - JPR Williams. Oedd - roedd rhaid cael sgwrs yn doedd a llun hefyd!

Roedd hi'n andros o boeth ar y llwyfan bore ma ac roedd hyn yn achosi trafferthion mawr i rai o'r offerynwyr. Un ohonyn nhw oedd Sion Rhys Jones. Roedd o'n cystadlu am y Rhuban Glas Offerynnol dan 19 oed ac mae o'n defnyddio techneg gwefus sych wrth chwythu'r ewffoniwm. Dallt?! Felly y peth olaf mae o isio ei wneud ydy chwysu ac roedd hi'n bum munud go chwyslyd iddo ar y llwyfan na! Ond roedd o mewn dipyn o sioc pan ddaeth y dyfarniad ac yn edrych yn smart iawn hefo'r fedal yn hongian rownd ei wddw wedyn! Da iawn Sion.

Wyneb newydd i mi oedd William Branston. Roedd o'n un o'r cystadleuwyr ar yr Unawd Oratorio. Mae o bellach yn byw yn Reading - ond hogyn o Benboer, Sir Gâr ydy o'n wreiddiol. Dyma'r tro cyntaf iddo gael llwyfan fel unigolyn. Diddordeb mawr arall ganddo ydy hwylio 'laser' - sef cwch un dyn.

Tydy un siwt ddim yn ddigon i ambell gystadleuydd! Mae gan Elgan Llyr Thomas siwt rhagbrawf a siwt llwyfan! Roedd o'n smart iawn yn y ddwy ohonyn nhw - ond yn gorfod newid gryn dipyn wrth fynd nôl a mlaen o'r llwyfan i ragbrawf!

Un o'r cystadleuwyr mwyaf siaradus heddiw oedd Mared Fflur Harries. Roedd hi'n cystadlu ar y Llefaru Unigol o'r Ysgrythur ac yn edrych ymlaen yn arw at gael mynd i Maes B ddiwedd yr wythnos.

Merched y Wawr oedd ar y llwyfan amser cinio a braf iawn oedd cael sgwrs hefo Mererid Jones - y Llywydd - wrth iddi hi drosglwyddo'r awenau i'r Llywydd newydd Gill Griffiths. Roedd Mererid wedi mwynhau y ddwy flynedd ddiwethaf yn y swydd, ac yn rhybuddio Gill y bydd y ddwy flynedd nesa' ma yn siwr o hedfan.

Wel mae p'nawn ma wedi hedfan go iawn. Mi ges i gyfle i grwydro ychydig o'r Maes hefo'r plant - a threulio oriau yn y babell Wyddoniaeth ac yn ciwio am ginio - pawb isio bwyta rhywbeth gwahanol! Dw i'n gweithio eto heno - cewch chi'r hanes 'fory!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Nia Lloyd Jones - Dydd Mawrth Awst 7
Celyn Llwyd oedd un o'r cystadleuwyr cyntaf welais i bore ma, yn canu alaw werin am 'y baw a'r llaca', ac mae hi wedi bod yng nghanol y baw, yn gwersylla yn y maes pebyll!  Ac er gwaethaf cawod oer bore 'ma doedd hi ddim gwaeth, a llongyfarchiadau mawr iddi ar ennill y wobr gyntaf.

Roedd Joseff Glyn Clwyd Owen nôl ar y llwyfan heddiw - a fo enillodd gystadleuaeth y monolog dan 16 oed, gan gyflwyno gwaith ei dad.  Mi gafodd o gyntaf ddoe hefyd - felly mae hi wedi bod yn Steddfod dda iawn iddo hyd yma - a bellach mae o'n troi ei orwelion am Maes B. Braf iawn!

Un o'r rhai ar y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth y ddawns arbenigol oedd Ioan Wyn Williams. Roedd gan Ioan wisg aur lachar iawn amdano heddiw.  Mae o'n gwneud pob math o ddawnsio - jazz, ballet, hip hop, a ddiwedd yr wythnos fe fydd o nôl yma yn clocsio!

Un gafodd lwyddiant mawr heddiw ydy Steffan Rhys Hughes, gan ennill tair gwobr gyntaf. 'Da ni wedi hen arfer sgwrsio gefn llwyfan ac mae bob amser yn braf cael gair hefo fo, ond rargol, mae o'n ymddangos yn dalach bob blwyddyn!

Rhwng deuddeg a dau p'nawn ma - roedd cefn llwyfan yn llawn wrth i bedwar côr pensiynwyr ymgynnull. Mae 'na edrych ymlaen mawr at y gystadleuaeth hon yn flynyddol, ac fe gawson ni ganu bendigedig eto heddiw. Côr y Mochyn Du dan arweiniad Sioned James enillodd y wobr gyntaf a dw i'n siwr y bydd na dipyn o barti yn nhafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd heno.

Roedd hi'n ddiwrnod mawr i Eirlys Britton heddiw - wrth iddi hi dderbyn Medal Syr TH Parry-Williams am ei gwaith diflino yn ardal Pontypridd ac ym myd y ddawns werin, ac yn naturiol roedd hi dan deimlad ar y llwyfan. Ond mi roeddwn i yn y cefn yng nghanol dawnswyr Nantgarw a Bro Taf a phob un ohonyn nhw wedi gwirioni ei gweld hi yn serenu ar ganol y llwyfan. Llongyfarchiadau i griw Nantgarw am ennill y wobr gyntaf am y cyflwyniad ar lafar, dawns a chân hefyd.

Cystadlu ar yr Unawd Cerdd Dant dan 21 oedd Mirain Fflur heddiw, ac mae'n syndod ei bod hi ar y llwyfan o gwbl, gan ei bod hi'n meddwl mai fory oedd y gystadleuaeth ar y llwyfan! Diolch i aelod o'r teulu am fynd i chwilio amdani - cyn iddi gyrraedd y bar!

Dwy sydd wedi hen arfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ydy Ceri Wyn ac Elen Gwenllian, ac unwaith eto roedd y ddwy yn cystadlu ar y ddeialog.  Mae pawb a'i ddull arbennig o ymarfer ymlaen llaw, ac o gofio bod Ceri yn byw yn Llundain a bod Elen yng Nghaerdydd - yr unig ffordd y gallen nhw ymarfer oedd dros y ffôn!

Wela i chi fory!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Rhun ap Iorwerth: Y gymhariaeth rhwng Cerys Matthews a'r Prifardd newydd
Mae Cerys Matthews newydd gyrraedd! Mae'n sefyll draw fan acw yn ein swyddfa yn trafod beth i'w gynnwys yn ei rhaglen hi o uchafbwyntiau'r Brifwyl fydd yn cael ei ddarlledu ar deledu rhwydwaith y BBC y penwythnos nesaf.

Nid ymffrostio ydi hyn ond, fel y dwedodd Neil Rosser yn ei gân, dwi'n adnabod Cerys Matthews hefyd - roedd hi yn y coleg efo fi (flwyddyn neu ddwy yn ôl, bellach!) ac rydw i'n falch iawn o'r llwyddiant rhyngwladol mae hi wedi ei brofi fel cantores.

Mae'n wych felly bod cynulleidfa deledu trwy Brydain am allu profi'r Brifwyl drwy lygaid un mor adnabyddus.

Fe ddylem fod yn falch iawn o'n hallforion Cymreig - yn gantorion, actorion, darlledwyr, pobl fusnes ac ati - ac heb os mae'n rhoi statws ychwanegol i'r Eisteddfod a'r diwylliant Cymreig yn ehangach pan mae'r bobl hynny yn dangos i'r byd mor bwysig iddyn nhw yw'r diwylliant hwnnw.

Rwyf am ddwyn cymhariaeth rhwng Cerys a'r Prifardd newydd os y caf i.

Roedd rhoi coron ar ben Gwyneth Lewis heddiw yn ddatganiad rhyngwladol o safon barddoniaeth Cymru. Dyma fardd byd-eang sydd â pharch byd-eang. Pan glyw y byd barddonol bod Gwyneth wedi ennill y wobr hon, bydd yn brawf iddyn nhw o bwysigrwydd y gystadleuaeth.

Os y barnodd y beirniaid bod Gwyneth Lewis yn wirioneddol deilwng o Goron yr Eisteddfod Genedlaethol, fe hoffwn innau ddatgan fy malchder bod ein traddodiad barddol Eisteddfodol cyn gryfed ag erioed a bod cystadleuaeth y Goron yn deilwng o gais gan Gwyneth Lewis.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes