BBC - Blog C2

Owain Griffith - Violas / Carw
Haia

Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ei phrynu yng Ngwyl Gwydir y llynedd - EP 'Nos Somnia' gan Violas. Mi oedd y Violas yn gwneud set fach acwstic ar lwyfan Nyth, ac yn perfformio fersiyne acwstic o dracie fel Penseiri ac Ama Dablam.

Ers clywed 'Nos Somnia' am y tro cyntaf, mae harmonia hyfryd, curiadau hudolus a synau hiraethus Violas wedi dod yn dipyn o ffefryne gen i, felly difyr iawn oedd clywed fod Owain o'r grwp wedi dechra prosiect unigol o'r enw "Carw". Mae o wedi creu cyfri Twitter i hyrwyddo'r prosiect, ac wedi rhoi un trac - Elevate - ar wefan soundcloud. O'r nodyn cyntaf, mae'r trac yn dwyn i gof swn gitar y Violas, ond mae'r curiadau electroneg yn dod a naws eitha gwahanol i "Carw".

Gobeithio cawn ni lot mwy gan Owain, achos mae Elevate yn wych... ond gobeithio hefyd y bydd y Violas yn parhau fel grwp!

Hwyl

Lis

x

ON Newydd glywed gan Owain - mae o'n gweithio ar fwy o ganeuon ar hyn o bryd, hefo'r gobaith o ryddhau EP pan fydd digon o ddeunydd. Mae'n recordio hefo'r cynhychydd Llion Robertson, ac yn gobeithio gigio - ond ar hyn o bryd yn trio gweithio allan sut fyddai popeth yn gweithio'n fyw!! Diolch Owain!

SFA - yr unigolion...
Haia!

Fel grwp, mae'r Super Furry Animals wedi bod yn dawel iawn yn y blynyddoedd dwetha - dim albym ers Dark Days/Light Years yn 2009, a heblaw am chware yn noson goffa Gary Speed yn Stadiwm y Mileniwm, fawr ddim gigs chwaith.

Yn amlwg, i ffan fel fi, ma hynny'n beth drwg - dwi'n gweld colled un o'n grwpie mwya creadigol erioed, ond er fod y grwp 'di bod yn dawel, mae'r aelodau - Gruff Rhys, Cian Ciaran, Daf Ieuan, Huw Bunford a Guto Pryce wedi bod yn brysur iawn., ac mae 2013 yn argoeli i fod yr un mor gynhyrchiol iddyn nhw.

Sengl Gulp prosiect newydd Guto Pryce hefo Lyndsey Leven, oedd un o fy hoff sengle o 2012, a dwi'n edrych 'mlaen at glywed mwy ganddyn nhw eleni. Mi oedd albym unigol gynta Cian Ciaran, "Outside In", llawn harmoniau hyfyrd a geirie torcalonus, ac felly dwi'n hynod falch bod Cian yn bwriadu rhyddhau ei ail albym yn y misoedd nesa' 'ma.

Yr wythnos d'wetha ar y rhaglen, ro'n i'n ddigon lwcus i fedru chwarae traciau "ecsgliwisif" oddiar albym newydd The Earth - band Daf Ieuan hefo Mark Roberts (Cyrff/Catatonia/Ffyrc) a Dionne Bennet (The Peth). Ma na swn pop 'soul' anhygoel i'r albym, swn eitha retro, ond hefyd yn llawn angerdd. Mi fydd albym gynta' The Earth, "OFF/ON1",  yn cael ei rhyddhau ar label Strangetown Records yn fuan, hefo sengl am ddim o'r enw "I Deserve You" ar Chwefror 2il.

Mae Gruff Rhys hefyd 'di bod yn brysur yn y 3 mlynedd dwetha - falle eich bod chi wedi gweld y ffilm Seperado ar S4C dros y 'Dolig, neu wedi prynu'r albym wych "Hotel Shampoo" -  albym fuddugol y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg 2011? Ond beth am 2013...?

Wel, cyn y Dolig, ges i sgwrs hefo Gruff, ac mi oedd o'n son fod ne albym newydd ganddo ar y ffordd yn 2013. Doedd o ddim isho deud mwy, ond mae na ambell gliw wedi ymddangos yn y dyddiau dwetha. Mae Neon Neon wedi creu cyfrif Twitter - Neon Neon oedd prosiect Gruff hefo Boom-Bip, gafodd enwebiad Mercury - i gyhoeddi y bydda nhw'n DJ-io yn y Roundhouse yn Llundain ar Chwefror 19eg. Ma nhw hefyd wedi lawnsio tudalen tmblr... Dybed ydy hyn yn golygu fod yr ail albym ar y ffordd? Gobeithio wir!

Hwyl

Lis

X

Gwyl Glan Llyn!
Mae Glan Llyn wedi cyhoeddi manylion gwyl gyffrous fydd yn digwydd ym mis Ebrill ac mae C2 yn falch o fod yn rhan o bethau!

Byddwn yn darlledu setiau o lwyfan yr wyl gan Swnami, Y Bandana, Niwl a Candelas ar C2. A fe allwch chi fod yn rhan o'r penwythnos hefyd - mae gwahoddiad i fandiau ifanc rannu llwyfan gyda rhai o brif fandiau Cymru!

Ewch draw i'r dudalen Facebook i gael y manylion i gyd:

http://www.facebook.com/events/588036764556202/

Welwn ni chi yno!

Meic Ar Y Meic
Helo! Huw sy 'ma ar flog C2.

Yn ei eitem rheolaidd Meic Ar Y Meic dwi wedi siarad efo Mici Plwm, Mikee Snooze, Mike Williams, Mici Ruggerio a Meic Parry. Heno dwi'n mynd i siarad efo Meic Stephens.

Dad ydi Meic Stephens ac mae ei gasgliad recordiau wedi bod o ddiddordeb ers blynyddoedd.

Meic Stephens a Huw Stephens

Ar gyfer C2, dwi di gofyn i dad i ganolbwyntio ar recordiau mewn ieithoedd lleiafrifol, felly bydd recordiau o Lydaw ac o Iwerddon ar y rhaglen heno.

Mae'r rhaglen rhwng 7 ac 8.

Hwyl!

Noson Wobrau'r Selar
Helo!
Mi fydd y rhai ohona ni sy’n dilyn cylchgrawn Y Selar @y_selar ar Twitter neu Facebook wedi sylwi eu bod nhw’n brysur iawn ar hyn o bryd. Mae’n nhw wrthi’n paratoi rhifyn nesa’r cylchgrawn (ac yn chwilio am newyddion/cynnyrch newydd, gyda’r llaw yselar@live.co.uk) ond mae hi hefyd yn gyfnod pleidleisio Gwobrau’r Selar.

Mae Gwobrau’r Selar yn digwydd yn flynyddol, ac yn gwobrwyo artistiad Cymraeg am eu gwaith a’u cynnyrch yn ystod y flwyddyn – a ni’r cyhoedd sy’n cael pleidleisio. Felly – ewch i bleidleisio!

Ond yn fwy na hynny eleni, mae Selar wedi penderfynnu creu “Noson Wobrau’r Selar” – ryw fath o fersiwn cyfoes o nosweithiau Sgrech y gorffennol dwi’n meddwl. Mi oedd Y Selar wedi cyhoeddi’r dyddiad a’r lleoliad yn barod, sef Neuadd Hendre ar Fawrth 2il, ond heddiw, ma nhw wedi cyhoeddi rhai o’r artistiaid fydd yno ar y noson.

Yr enwau cyntaf i gael eu cyhoeddi ydy Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana, Gwenno a Swnami! Mi ydw i’n andros o falch gweld rhai o fy hoff artistiaid ar y rhestr – mae hi’n edrych yn “line-up” a hanner hyd yma!

Mae tocynnau’r noson ar werth rwan o wefan Sadwrn sadwrn.com - £6 ymlaen llaw, neu £8 ar y drws – os bydd rhai ar ol!

Dwi’n edrych ymlaen yn barod at y gig, a phwy bynnag fydd yr ennillwyr, mi fydd hi’n gig anhygoel dwi’n siwr.

Hwyl
Lis
x

Race Horses yn dod i ben
Helo na
Fe gafodd y grŵp Radio Luxembourg ei ffurfio gan Dylan Hughes a Meilyr Jones yn Aberystwyth nol yn 2005; heddiw, fe ddaeth olynydd Radio Lux, y Race Horses i ben, a dwi'n hynod drist.

Mae fy nghyfnod i ar C2, a chyfnod Radio Lux / Race Horses mwy neu lai yn cyd-fynd, a dwi wedi dilyn gyrfa'r band yn agos iawn. O'r sengl gyntaf Lisa, Magic a Porva ar label Ciwdod i'r albym ddwetha, Furniture, dwi wastad wedi edrych ymlaen at beth bynnag oedd gan y grŵp ar y gweill.

Dwi'n meddwl mai Race Horses ar ei wedd bresennol - Dylan a Meilyr, Gwion ar y drymiau, a Mali a Dan - ydy un o'r grwpiau mwyaf talentog o gerddorion i mi eu cyfarfod. Mae gwylio nhw ar lwyfan yn profi eu dawn; nid yn unig ma' nhw'n llwyddo i gyfleu haenau cymhleth eu caneuon yn fyw, ond ma' nhw'n cyfnewid offerynnau drwy'r adeg - Gwion ar y drymiau, yna ar gitâr; Mei ar y bas, yna'r drwm mawr; Mali ar y delyn, yna'r allweddellau.

Ma' nhw wir yn grŵp amryddawn, a'r cyfan yn cael ei arwain gan un o'r "frontmen" mwyaf carismataidd. Mae gwylio Meilyr ar lwyfan, fel dwedodd Bat For Lashes mewn cyfweliad yn ddiweddar, yn brofiad bythgofiadwy.

Dwi mor falch erbyn hyn mod i wedi mynd i'w gweld nhw ddwywaith mewn wythnos cyn y Nadolig - unwaith yng Nghaernarfon, ac unwaith yn y Gate yng Nghaerdydd. Dyna sut y bydda i'n cofio'r Race Horses - roedd gig y Gate yn un o'r goreuon erioed i mi, gyda'r band ar eu gore mewn lleoliad perffaith. Bechod ofnadwy na chawsom nhw'r cyfle i deithio hefo Kaiser Chiefs fel y cynllun, ond roedd y gig yno yn y Gate yn fythgofiadwy.

Gwahaniaethau cerddorol oedd yn gyfrifol am ddiwedd y band, mae'n debyg, a thra bo hynny'n drist, mae'n awgrymu fod gan yr aelodau syniadau pendant ar gyfer eu cerddoriaeth yn y dyfodol. Da ni wedi clywed yn sydyn iawn gan Gwion, sy'n hynod drist am bopeth, ond sydd hefyd yn gado traciau newydd ganddo yn fuan.

Felly pob lwc yn y byd i Meilyr, Dylan, Gwion, Mali a Dan yn y dyfodol, a diolch am yr holl gerddoriaeth, cyfweliadau a gigs yn ystod yr 8 mlynedd dwetha.

Mae hi wedi bod yn dipyn o jôc rhyngddyn nhw a fi erioed, eu bod nhw'n ofnadwy o araf yn rhyddhau eu caneuon, a dwi wastad wedi bod yn holi - "pryd gawn ni rywbeth arall ganddoch chi?". Bechod mawr na cha i ofyn hynny eto - ond diolch am bopeth Race Horses!

Cariad mawr

Lis
x

ON - dyma sesiwn Unnos arbennig iawn y Race Horses - "Tiamalina - gweithio mewn gwesty a canu mewn grwp" ag Oriel Luniau Race Horses yn recordio sesiwn byw ar gyfer rhaglen huw Stephens.

Gai Toms - gigs Bethel
Helo eto!

Cwpl o fanylion bach am Gai Toms; mae Gai wedi cyhoeddi y bydd o'n chwarae yng Ngwyl "Focus Wales" eleni, sy'n digwydd ar Ebrill 26ain yn Wrecsam. Mae Gai hefyd yn chwilio am gigs i hyrwyddo'r albym Bethel rhwng Chwefror 23 ac Ebrill 27 - cysylltwch hefo Gai os 'da chi'n drefnydd gigs ac awydd cael Gai draw.

Mae albym Gai - Bethel -  allan ers 'chydig cyn 'Dolig, ond os nad yda chi wedi clywed hanes yr albym, dyma'r holl wybodaeth gan Gai.

Hwyl

Lis

x

GAi ToMS - BETHEL

Yr albwm dwbl hirddisgwyliedig. Gwledd o gerddoriaeth!              (CD a MP3)

Dyma'r ail albwm i'r trwbadwr o Fro Ffestiniog ers difa'r enw Mim Twm Llai.

Y tro hwn, albwm dwbl / 2 CD  - 1.Bethel Hen  a  2.Bethel Newydd.

Dathliad yw'r albwm o fywyd newydd festri Capel Bethel yn Nhanygrisiau, Bro Ffestiniog. Mae Gai Toms wedi buddsoddi yn yr adeilad er mwyn ei drosi i stiwdio recordio, gofod ymarfer a swyddfa i Recordiau SBENSH. Cyn newid yr adeilad yn gyfan gwbl, penderfynodd recordio albwm fel teyrnged i'r hen, ac i ddathlu'r newydd.

CD1. Mae Bethel Hen yn gyfle i'w glywed fel cyfansoddwr a pherfformiwr amrwd. Cynhyrchiad syml gyda llais a gitâr yn bennaf, ond... er y teitl 'Hen', caneuon gwreiddiol newydd sbon sydd arni, gwerin eu naws ond yn gyfoes ac yn fythol ar yr un pryd.

CD2. Ar Bethel 'Newydd' clywn Gai Toms a'r band, caneuon aml-arddull gwreiddiol ond gyda swn a chynhyrchiad llawnach na'r hyn a glywir ar 'Hen'. Does dim ond angen gwrando ar ddeunydd Anweledig a Mim Twm Llai i brofi nad yw cymysgu arddulliau yn beth newydd iddo.

"Rwyf wedi gweithio'n galed iawn ar Bethel ac yn falch iawn o'r canlyniad, hon yw fy albwm orau hyd yn hyn. Ni fuasai'r albwm yn swnio fel y mae hi heb y cyfrannwyr i gyd, rwyf mor lwcus i fod yn ran o gymuned cerddorol talentog."   GT

Ar y cyfan mae Bethel yn wledd o gerddoriaeth ble mae ymroddiad yr artist i'w grefft yn amlwg iawn. Dyma Gai Toms ar ei orau, dylai hon fod yng nghasgliad pawb.

CYFRANNWYR: Er mai artist unigol gyda band yw Gai, mae cyfoeth o artistiaid yn cyfrannu i'r wead sonig. Mae'r band ffyddlon arni wrth gwrs, ond hefyd cawn gerdd arbennig gan y bardd a'r awdur Dewi Prysor, mae Seindorf yr Oakley a Chôr y Moelwyn yn ychwnegu sain epig, yn ogystal a sgat byrfyfyriol gan y bardd o Efrog Newydd - Bob Holman! Mae ymddangosiadau arbennig hefyd gan criw o Dangrisiau yn cynnwys Dr Meredydd Evans (94bldd oed!), Ceri Cunnington (Twmffat), Phil Lee Jones (GHF / Twmffat), Lauren Humphreys, Kaz a Asa Bentham (Estella), Owain Jones (Masters in France) a chôr o blant Ysgol Tanygrisiau + mwy. (rhestr llawn i'w weld ar y clawr)

Bydd Gai Toms a'r band yn teithio Bethel yn 2013. Dyddiadau i'w cadarnhau.

CD1	BETHEL 'Hen'

1.	Cân y dewis

2.	Cylchoedd

3.	Seren

4.	Tân yn y sgwâr

5.	Adar o'r unlliw

6.	Y Bonws

7.	Un

8.	Ar y Moelwyn

9.	Hud o hyd

10.	Bethel

CD2	BETHEL 'Newydd'

1.	Awyr las

2.	Daw'r haf yn ol

3.	Llyn Tekapo

4.	Bradwr

5.	Anti Paganda

6.	Haul ar fryn

7.	Eiliadau

8.	Glaw yr haf

9.	Twll tyllu

10.	Stiletos Gwydr

11.	Tân oer

12.	Diwrnod eliffantod

Cynhyrchwyd gan		Gai Toms

Cymysgwyd gan		'Hen' GT a 'Newydd' gan Geraint Jones @ninjasound

Mastro				Geraint Jones @ninjasound

Recordiwyd yn		Stiwdio Sbensh. Cymru / Wales

Band				Paul Cockerill (dryms)

Euron Jones (gitâr drydan )

Gary Richardson (bas)

Elaine Thomas Gelling (lleisiau cefndir)

Gigs 'Coll'
Haia

Newydd gael ebost gan Dilwyn Llwyd am gigs Coll - meddwl byswn i'n ei rannu!

Lis

x

Sumai,

Isod mae digwyddiadau Coll dechrau 2013 yn Y Llangollen,Bethesda ac mewn cydweithrediad a Pontio.

Oes modd hyrwyddo y digwyddiadau canlynol a'i rhoi mewn rhestyr digwyddiadau.

Mae pethau eraill cyffroes yn cael ei trefnu ar gyfer 2013 hefyd.

Bydd cyhoeddiad am y rhain yn fuan.

Blwyddyn Newydd Dda.

Hwyl,

Dilwyn

RENO CORRADO PIMPS

nos wener 11.1.13 9pm

Y Llangollen, Bethesda

MEMORY CLINIC+

nos wener 25.1.13 9pm

Y Llangollen, Bethesda

SEN SEGUR+

nos wener 8.2.13 9pm

Y Llangollen, Bethesda

RICHARD JAMES A'R BAND

GARETH BONELLO

PLU

nos sadwrn 9.2.2013 8pm

Clwb Rheilffordd,Bangor

Tocyn £10 | Gostyniad £8

Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Palas Print Pendref neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk

Sen Segur - Sudd Sudd Sudd
Haia!

Yn syth ar ol i ni dderbyn albym gynta Siddi, mae ail CD gan label i-ka-ching wedi glanio ar fy nesg. Y tro yma, EP Sen Segur sydd wedi cyrraedd - "Sudd Sudd Sudd". Mae'r EP wedi ei recordio gan Mr Huw, a'i ol-gynhyrchu gan Iwan "Recall" Morgan", ac mi fydd allan ar Ionawr 21ain.

Un o'r pethe cynhara' i Sen Segur wneud fel band oedd recordio sesiwn byw i'r rhaglen 'nol yn 2010. Er fod y band yn ifanc iawn, a'r sesiwn yn recordiad byw, eitha amrwd, mi oedd hi'n amlwg o'r cychwyn cyntaf eu bod nhw'n fand talentog iawn, llawn syniadau, a chaneuon bachog.

Ers hynny, dwi wedi gweld y band lot fawr o weithie'n fyw, a thrwy gigio'n hynod gyson a chyd-weithio hefo cynhyrchwyr fel John Lawrence a Mr Huw, mae swn y band wedi datblygu, ac ma nhw erbyn hyn yn fand byw gwych, hefo arddull unigryw. Mi oedd yr EP gynta Pen Rhydd, ddaeth allan yn 2011, yn anhygoel, a'r sengl Sarah/Nofa Scosia yn bop seicadelic perffaith!

Felly, dwi'n edrych ymlaen at fedru chwarae'r traciau ar y rhaglen yn fuan gobeithio, ac yn y cyfamser, dyma rywfaint mwy o wybodaeth am yr EP gan y band.

Hwyl

Lis

X

Sen Segur

Sudd Sudd Sudd

Traciau:

Hei Bacym Do!

Lemoned Cymylog

Nofio Trybelydrol

Sentriffiwgal

8onglog

Gigs

19.01.13 Clwb Ifor Bach, Caerdydd/Cardiff

26.01.13 Caffi Siabod, Capel Curig

02.02.2013 Caerfyrddin/Carmarthen

05.02.2013 Bala

08.02.2013 Y Llangollen, Bethesda

09.03.2012 Ar y Rels, Bangor

Rhyddheir Sudd Sudd Sudd ar ffurf CD ac yn ddigidol i'w lawrlwytho o itunes, amazon, spotify ayyb o'r 21ain o Ionawr 2013 ymlaen. Bydd Sen Segur yn gigio'n brysur i hyrwyddo'r ep yn y flwyddyn newydd, a bydd yr ep ar gael i'w prynu yn y gigs, yn ogystal ag yn y siopau canlynol: ; Bys a Bawd (Llanrwst); Andy's Records (Aberystwyth); Spillers Records (Caerdydd); The Parrot (Caerfyrddin) ; Awen Meirion (Bala), Llen Llyn (Pwllheli), Palas Print (Caernarfon) a gwefan www.sadwrn.com.

Siddi - Un Tro
Helo!

Dwi'n ofnadwy o falch fod 2013 yn dechrau hefo albym dwi di bod yn edrych ymlaen ati ers dipyn - albym Siddi - "Un Tro". Falle fod yr enw yn un newydd i ambell un, ond mi fyddwch chi'n sicr yn adnabod y lleisiau ar yr albym achos Siddi ydy prosiect Branwen o Cowbois Rhos Botwnnog a'i brawd Osian, sy'n aelod o'r Candelas.

Fe ges i "demo" hyfryd o un o ganeuon Siddi gan Branwen 'nol ym mis Mawrth 2012, a'i gwahodd nhw i wneud sesiwn acwstic yn BBC Bangor. Yn anffodus, oherwydd prysurdeb Branwen ac Osian hefo Cowbois, Candelas a phob math o bethe eraill, roedd hi'n fis Mehefin erbyn iddyn nhw ddod ata ni - ond mi oedd o'n sesiwn cofiadwy iawn. Mae symlrwydd y caneuon, a llais anhygoel Branwen yn rhoi ias i mi pob tro, ac mi oedd y profiad o wrando ar y caneuon yn fyw yn wefreiddiol.

Mae'r albym yn rhoi'r un profiad iasol - ond ma na ambell i beth eitha gwahanol yno hefyd...  Mi fydd yr albym allan ar Ionawr 14eg ar label i-ka-ching, ac yn garedig iawn mae'r label wedi rhoi trac i'w lawrlwytho am ddim yn fama. Mae'r gwaith celf hefyd i'w weld yno - gan yr artist Osian Efnisien.

Felly pob lwc i Siddi hefo'r albym newydd!

Lis

x

Cerddoriaeth 2013
Helo a blwyddyn newydd dda!

Dwi'n edrych 'mlaen at flwyddyn arall o gyflwyno cerddoriaeth newydd o bob math ar C2. Ond ar ddechre 2013, mae'r sefyllfa rhwng y BBC ac EOS am olygu newidiadau i'r rhaglen. Ar hyn o bryd, fydd C2 ddim ond ymlaen am awr bob nos, a fydda i ddim yn gallu chware popeth fyddwn i'n ei wneud fel arfer.

Yn amlwg, mi ydw i a gweddill y criw yn gobeithio y bydd ne gytundeb teg yn dod yn fuan, ac y cawn ni barhau i roi llwyfan i'r holl gerddorion talentog 'da ni'n mwynhau cyd-weithio hefo nhw. Yn y cyfamser, mi ydw i a'r criw am wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau fod y gynulleidfa'n cael gwasanaeth mor gyflawn ac y gallwn ni, a bod yr artistiaid sydd wrthi'n cyfansoddi, recordio a rhyddhau ar hyn o bryd yn cael cymaint o sylw ac sy'n bosib o dan yr amgylchiadau, a'r cyfyngiadau.

Felly, mi fydda i'n blogio yn ystod y cyfnod, yn dod a newyddion o'r sîn, ac yn rhannu lincs i wefannau cerddorion, deunydd newydd, gigs ayyb. Yn y blog nesa, dwi'n gobeithio son rhywfaint am albym Siddi, ac EP Sensegur.

Dwi nol ar C2 nos fercher am 7. Blwyddyn newydd dda!

Lis

x

Dathlu 10 mlynedd o C2
Dros y blynyddoedd, mae'r amryddawn Gareth Potter wedi cyfrannu mewn amrywiaeth o ffyrdd i'r sîn gerddorol yng Nghymru, trwy gyflwyno, DJo, ysgrifennu, a chwarae mewn sawl band (Ty Gwydr, Clustiau Cŵn, Traddodiad Ofnus). I nodi'r deng mlynedd ers sefydlu C2 ym mis Rhagfyr 2002, mae Gareth wedi ysgrifennu darn am beth mae C2 yn ei olygu iddo...

Amser maith yn ôl rhywbryd yn y 1970au, fe ddechreuodd bachgen ifanc o gymoedd y De Ddwyrain gymryd diddordeb mewn cerddoriaeth pop. Roedd Marc Bolan yn marchogaeth alarch wen, roedd Abba yn gorfoleddu am eu Waterloo ac roedd 'na Osmonds bach ymhobman. Roedd y chwedegau drosodd, doedd punk heb ddigwydd ac er y streics a bomiau'r IRA, roedd yn fyd o liw, diolch i Top of the Pops a Radio 1, oedd yn cael ei chwarae gan y gyrrwr ar y bws i Ysgol Ifor Bach yn Senghennydd.

Roedd mynd i'r ysgol Gymraeg yn y dyddiau yna yn rhywbeth breintiedig ac anhrydeddus. Roedd pob un disgybl yn ddraig bach oedd yn mynd i fywiogi y Gymru newydd. Roedden ni'n fahanol, yn sbesial; y rhan fwyaf ohonom, fel fi, yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Fe ddarllenom ni am Sali Mali, am y tŷ oedd ar y comin ac am anturiaethau'r Llewod. Fe gystadlon ni mewn eisteddfodau gan adrodd am lwynogod a wiwerod. Fe ganon ni am glywed tyner lais ac am ein calonnau glân. Ond er hyn i gyd, wnaeth neb ein argyhoeddi ni fod yna sîn bop i gael.

Wedyn, un prynhawn fe newidodd popeth. Fe symudodd ein athro dosbarth ni, Moi Parri, y bordydd i un ochor ac fe'n gwahoddwyd ni i ddawnsio i synau roc, uchel, electronaidd gyda churiad oedd llawn cystal ag unrhywbeth oedd yn cael ei chwarae ar y radio ar y bws ysgol. Ond nid Queen, neu Status Quo neu Suzi Quatro oedd yn gwneud y sŵn yma ond Bran, Edward H Dafis, Seindorf a Meic Stevens. O'r diwedd roedd yna fwy i'r busnes siarad Cymraeg yma na jest cyd adrodd a cherdd dant. Roedd hyn yn hwyl. Ac roeddwn i eisiau mwy.

Pan gyrhaeddais i Ysgol Gyfun Rhydfelen fe ddes i'n aelod brwdfrydig o'r Uwch Adran, oedd yn trefnu disgos Cymraeg ar nosweithiau Gwener. Fe ddes i'n ffan o recordiau'r Trwynau Coch, Geraint Jarman a'r Llygod Ffyrnig oedd yn cael eu chwarae gan y DJ Alun ap Brinley o ddosbarth chwech. Dyma recordiau oedd yn adlewyrchu hinsawdd newydd, ifanc, oedd yn edrych ar y byd o'n cwmpas ac i'r dyfodol...

Roedd yn rhaid i mi gymryd rhan yn hyn i gyd, felly dyma fi a chriw o ffrindiau ysgol o gefndiroedd tebyg ffurfio ein grŵp ein hun, sef Clustiau Cŵn. Dyma oes y cylchgrawn Sgrech, y gigs ym Mlaendyffryn, Corwen a Plas Coch. Fe ddaeth ein record, Byw yn y Radio, allan ac fe ddechreuodd antur mwya fy mywyd i.

A phob bore Sadwrn, byddwn yn tiwnio mewn i Radio Cymru ar gyfer Sosban gyda Richard Rees. Ymhell cyn cyfnod y we a Maes E a Facebook a Twitter dyma lle roedd y bwrlwm i gyd. Bydde pobol yn sgrifennu mewn a ffonio gyda cheisiadau a negeseuon. Bydde bandie'n galw heibio i sôn am eu gigs a'u recordiau. Roedd sesiynau ecsgliwsif ac adolygiadau o berfformiadau. Wrth gwrs, roedd 'na raglenni teledu - ond fel mae pawb yn gwybod, y radio yw cartref roc a rôl - ac am ddwy awr ar ddechrau'r penwythnos, roedd gan roc a rôl gartref Cymraeg.

Wrth i'r wythdegau symud yn eu blaen fe gododd y sîn tanddaearol gyda grwpiau fel Datblygu, Y Cyrff a Tynal Tywyll yn dechrau mynnu sylw. Dyma gyfnod y ffansîns a'r labeli annibynnol; y casétiau, Recordiau Anhrefn a Fideo 9. Fe ymatebodd Radio Cymru gyda'u rhaglenni Hwyrach.

Yma, y gerddoriaeth ddaeth yn gyntaf, gyda rhaglenni fel Heno Bydd yr Adar yn Canu, gyda Nia Melville yn rhoi'r pwyslais ar fandiau oedd yn torri tir newydd. Bandiau ifanc fel Gorky's, Fflaps a Ffa Coffi Pawb ddaeth i'r amlwg fan hyn, a hynny ar raglenni oedd yn cael eu darlledu BOB NOS! Roedd hyn yn chwyldro aeth ymlaen i gofnodi tyfiant y sîn a alwyd yn Cŵl Cymru gyda llwyddiant Catatonia a'r Super Furries. Dyma hefyd gyfnod cylchgrawn Sothach, Recordiau Ankst ac R Bennig a'r sîn ddawns. Roedd yna deimlad fod Radio Cymru yna, trwy ei raglenni hwyrach, yn rhan o'r holl beth. O'r diwedd doedd dim rhaid i ti fod o reidrwydd yn aelod o gôr neu dîm rygbi i deimlo dy fod yn 'Gymro go iawn'.

Ac yn yr awyrgylch yma, ar ôl i SFA sgorio cais a'i throsi gydag albym uniaith Gymraeg - sef Mwng, yn y deg uchaf Brydeinig - fe ddaeth C2 i fodolaeth, ddeng mlynedd yn ôl, ar yr ail o Ragfyr 2002.

Roedd cerddoriaeth pop Gymraeg wedi tyfu lan. Ac roedd yn rhywbeth oedd yn werth ei ddathlu. O wyth o'r gloch bob nos, roedd Radio Cymru yn mynd i droi'n orsaf gerddoriaeth go iawn.

Roedd y tîm ar y dechre yn cynnwys DJs fel Kevin Davies, Beks, Daf Du ac wrth gwrs Huw Stephens. Dyma gychwyn Siart C2 i adlewyrchu beth oedd yn digwydd go iawn ar y sîn o wythnos i wythnos. Recordiwyd sesiynau gan yr anfarwol MC Mabon, Geraint Jarman, Llwybr Llaethog a'r bytholwyrdd Meic Stevens.

Dyma gyfnod labeli Ciwdod, Gwymon a'r cylchgrawn Y Selar. Caneuon fel Sex Sells gan y Poppies, Y Mwyafrif gan Pep Le Pew a Gad Fi Fod gan Cofi Bach a Tew Shady. Lansiwyd Gwobrau RAP; noson i ddathlu'r goreuon ymysg ein artistiaid.

Mae'r ddeng mlynedd ers dyfodiad C2 wedi gweld rhaglenni gan gymysgedd eang o ddarlledwyr fel Daniel Glyn, Lisa Gwilym, Magi Dodd, Hefin Thomas, Nia Medi, Ffion Gwallt Dafis, Brychan Llŷr, Geraint Jarman, Huw Chiswell, Huw Evans, Bethan Elfyn, Dyl Mei, Georgia Ruth, Ian Cottrell, Stuart Cable a Dewi Pws, Rhys Mwyn, Ryland Teifi, Owen Powell, Steffan Cravos, Cynan Llwyd, Griff Lynch, Gruff Pritchard, Ifan Evans a Dafydd James.

Ond beth am y presennol? Beth ydy pwrpas C2 yn 2012? Ai platfform i lansio gyrfa yn y cyfryngau fel cyflwynydd neu i weinyddu'r gwrandawyr gyda'r danteithion diweddaraf a mwya blasus o'r sîn? Ife i dorri tir newydd a darganfod talentau ifanc ynteu ein diddanu gydag eitemau difyr a doniol?

Yn bersonol, dwi'n hoffi cyfuniad. Ac mae'r cyfuniad yma yn bwysig i gadw C2 yn ffresh ac yn ddiddorol. Yn ystod y flwyddyn ddiwetha', dwi wedi ymddangos ar raglen yr unigryw Dafydd James yn canu medli o ganeuon Datblygu, Yr Anhrefn ac Amy Winehouse rownd y piano ac wedi dewis traciau i gymryd lan i'r gofod 'da fi ar raglen rhagorol Huw Evans. Dwi wedi siarad am rôl y gân protest ac wedi dathlu'r grŵp anfarwol Y Cyrff.

Fel gwrandäwr, dwi wrth fy modd pan mae cerddor neu arbenigwr/wraig yn cymryd yr awenau. Mae cyfresi Geraint Jarman, Ian Cottrell a Dyl Mei wedi bod yn ddifyr ac yn werthfawr. Dyw'r bobol yma ddim jest yn 'eitha hoff 'o gerddoriaeth, mae nhw, fel fi, yn obsessed! Mae eu brwdfrydedd yn hedfan drwy'r awyr fel y ffliw a dwi'n herio unrhyw un sy'n gwrando i beidio dal y firws melys o fewn pum munud.

Ar y llaw arall mae Magi Dodd fel mêt go iawn, yn arwain ar y daith ysgolion ac yn ein tywys ni drwy bentwr o tiwns a clecs. Mae ei steil hamddenol a chyfeillgar yn denu gwrandawyr ffyddlon ac ifanc i'r gwasanaeth ac mae ei chyfraniad yn werthfawr ac yn ddifyr ar yr un pryd.

Ac wrth gwrs, does dim pwynt trafod C2 heb rhoi masif pump uchel i 'Mr. C2', sef Huw Stephens. Mae e wedi bod yna ers y cychwyn. Ac wrth i'w yrfa ar Radio 1 gyrraedd yr uchelderau, mae e wedi bod yna hefyd ar C2 yn ein cyflwyno ni i bentwr o recordiau ôsym ac yn cyfweld â thalentau a phersonoliaethau mwya difyr y genedl. Nos Lun dwetha', ro'n i'n gyrru adre o weithio gyda grŵp ieuenctid yn Troedyrhiw. Roedd C2 ar y radio pan gyflwynodd Huw gân gan Afal Drwg Efa gyda Casi Wyn yn canu un o ganeuon Y Bara Menyn, sef Yr Wylan. Clasur o gân a recordiwyd yn wreiddiol dros ddeugain mlynedd yn ôl. Ond roedd gan y fersiwn yma guriad electronaidd a hollol 'nawr'. Dyma un o fomentau mwya perffaith y flwyddyn i mi. Roedd y ffaith bod y gân yma'n chwarae, a minnau'n hercian lawr yr A470 ar ôl diwrnod hir a blinedig yn adfywio ac yn gwneud i mi feddwl bod popeth yn iawn yn y byd.

Ym 1979 roeddwn i'n rhy ifanc i'r sîn. Yn 2012 dwi lot rhy hen. Ond dwi'n dal i ffitio mewn, rhywsut. Dwi'n caru pop a dwi'n caru pop Cymraeg. A thra fod C2 yn teimlo'r un fath mae'n haeddu bod ar yr awyr.

Mae Gwilym Rhys o'r Bandana rhai wythnosau i mewn i'w raglen newydd erbyn hyn, ac mae Gwyn Eiddior newydd ddechre cyfres am gerddoriaeth electroneg. Wrth gwrs mae 'na lot mwy wedi cyfrannu, a dyw pob un ddim wrth ddant pawb wrth gwrs, ond dyna un o'r pethe gore amdan y ffrwd. Ac mae'r ffaith ein bod ni gyd yn wahanol, gyda chwaeth gwahanol, yn rhywbeth i'w ddathlu.

Dwi'n eistedd ger fy radio digidol a dwi'n codi gwydred. Pen-blwydd hapus yn ddeg oed C2, a hir oes i ti!

Gareth Potter Tachwedd 2012

Oriel luniau 10 mlynedd o C2

Clip o ddechrau'r rhaglen gyntaf yn 2002

The Joy Formidable a Lisa Gwilym
Heno, mae’r grwp The Joy Formidable o’r Wyddgrug yn perfformio yn un o leoliadau enwoca’r byd, yr O2 yn Llundain, yn cefnogi un o fandiau mwya’r byd, Muse!

Ond neithiwr, roedd Ritzy Bryan a Rhydian Dafydd (The Joy Formidable) yn perfformio yn Neuadd Hendre, Bangor, ac fe aeth Lisa draw atyn nhw i gael sgwrs…

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

EP Yr Wythnos: R.Seiliog - Shuffle
Pob nos yr wythnos hon bydd rhaglenni C2 yn chwarae traciau oddi ar EP yr Wythnos: R.Seiliog - Shuffle.

R.Seiliog yw Robin Edwards o Peniel – mae o’n byw erbyn hyn yng Nghaerdydd a bydd yn gyfarwydd i rai fel drymiwr i H.Hawkline, Cate Le Bon a Meanz Heinz.

Mae’r EP 5 trac yn cael ei rhyddhau ar 29 Hydref ar feinyl 10” ar label Peski.

Mae R.Seiliog yn Cwlb Ifor Bach Caerdydd nos Iau Tachwedd y 1af gyda DJ Scotch Bonnet a Koyxen.

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2012
Mewn seremoni gyfforus yng Nghwesty'r Angel Caerdydd nos Iau, cyhoeddwydd mai'r band roc o Gaerdydd Future of the Left oedd enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2012.

The Plot Against Common Sense yw 3edd albwm y band o Gaerdydd. Sefydlwyd y band pan ddaeth aelodau o Mclusky a Jarcrew at ei gilydd nol yn 2005.

Roedd 12 albwm ar y rhestr fer a phanel o newyddiadurwyr, cyflwynwyr, blogwyr ac arbennigwyr o'r diwydiant oedd yn beirniadu.

Y cyflwynydd radio Adam Walton oedd yn cyflwyno'r wobr, sydd yn ei ail-flwyddyn. Gruff Rhys a'i albwm Hotel Shampoo oedd yr enillydd y llynedd.

Mae'r seremoni yn dynodi cychwyn Gwyl Swn - gwyl aml-leoliad yng Nghaerdydd.

Y rhestr fer yn ei chyfanrwydd -

Bright Light Bright Light - Make Me Believe in Hope

Cate Le Bon - CYRK

Cowbois Rhos Botwnnog - Draw Dros Y Mynydd

Exit_International - Black Junk

Future of the Left - The Plot Against Common Sense

Huw M. - Gathering Dusk

Islet - Illuminated People

Jodie Marie - Mountain Echo

Kids in Glass Houses - In Gold Blood

Kutosis - Fanatical Love