Ein Gwerthoedd

Cynulleidfaoedd. Creadigrwydd. Ymddiriedaeth. Parch. Atebolrwydd. Un BBC.

Mae CYNULLEIDFAOEDD wrth galon popeth a wnawn.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y BBC

  • Ffocws ar sicrhau gwerth i bob cynulleidfa a chwsmer yn ogystal â sicrhau budd y cyhoedd
  • Gweithio ar bethau sy’n bwysig bob dydd gyda synnwyr clir o bwrpas a sut gallwch chi gyfrannu at hynny
  • Helpu i hysbysu, i addysgu ac i ddiddanu miliynau o bobl yn y DU a ledled y byd

Beth mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan bawb

  • Hyrwyddo pob cynulleidfa a chwsmer, rhoi eu buddiannau wrth galon popeth rydych chi’n ei wneud
  • Sicrhau eich bod yn glir ynghylch pwrpas eich rôl: lle mae’n ffitio a pham mae rhagoriaeth a pherfformiad uchel yn bwysig

Yr hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan arweinwyr

  • Arwain drwy esiampl o ran eich perfformiad, eich gweithredoedd a’ch ymddygiad
  • Bod yn egnïol ac optimistaidd er mwyn cyflawni a rhagori, drwy sicrhau bod eich tîm yn deall eu cyfraniad at genhadaeth, pwrpas, gwerthoedd a strategaeth y BBC
  • Chwilio’n frwd am gyfleoedd idimau mewnol neu bartneriaethau allanol gydweithio er budd y BBC a’r cynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu

CREADIGRWYDD yw curiad calon ein sefydliad.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y BBC

  • Cyfrannu at gefnogi a darparu cynnwys a gwasanaethau sy’n torri tir newydd ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd
  • Amgylchedd ysbrydoledig lle mae creadigrwydd yn ffynnu a gall y syniad mawr nesaf ddod gan unrhyw un

Beth mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan bawb

  • Byddwch yn fentrus gyda syniadau a chwilio am gyfleoedd i fod yn greadigol. Dylech hyrwyddo’r syniadau gorau, nid dim ond eich rhai chi
  • Dangos eich bod yn ymwybodol o’r syniadau, y tueddiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf yn eich maes
  • Gwahodd lleisiau a safbwyntiau newydd i ysgogi eich creadigrwydd. Dewch i adnabod pobl a deall beth maen nhw’n ei wneud mewn rhannau eraill o’r BBC a’r tu allan 

Yr hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan arweinwyr

  • Creu amgylchedd lle gall timau arloesi, profi a datblygu syniadau
  • Rhoi’r amser, y gefnogaeth a’r adnoddau i’ch tîm arbrofi a chymryd risgiau deallus i sicrhau mwy o greadigrwydd a gwerth

YMDDIRIEDAETH yw carreg sylfaen y BBC - rydyn ni’n annibynnol ac yn onest.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y BBC

  • Bod yn rhan o un o sefydliadau mwyaf adnabyddus y byd lle mae didueddrwydd a gwirionedd yn hanfodol i ymddiriedaeth
  • Diwylliant lle mae lleisio barn, siarad yn ddi-flewyn ar dafod, gweld heriau fel cyfleoedd a gwneud penderfyniadau clir, amserol a gwybodus yn cael eu gwerthfawrogi
  • Dulliau gweithio lle mae haelioni, cyfraniadau cadarnhaol a chyd-gefnogaeth yn allweddol 

Beth mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan bawb

  • Bod yn llysgennad ar ran y BBC. Bod yn foesegol, yn ddiduedd ac yn onest ym mhopeth a wnewch a chodi eich llais pan fydd
  • gennych bryderon am arferion anfoesegol
  • Gwneud penderfyniadau clir, gwybodus ac amserol a gwneud yr hyn rydych chi’n dweud y byddwch chi’n ei wneud
  • Mynd ati’n weithredol i feithrin cysylltiadau cryf sy’n seiliedig ar onestrwydd, ymddiriedaeth a bod yn agored

Yr hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan arweinwyr

  • Gweithredu fel arweinwyr y BBC cyfan, gan ganolbwyntio ar ein huchelgais fyd-eang, nid dim ond ar eich maes chi
  • Meithrin ymddiriedaeth ac ymgysylltiad drwy gyfathrebu’n rheolaidd o fewn eich tîm a rhwng timau sy’n cydweithio
  • Meithrin trafodaeth agored ac adeiladol am ddata a syniadau sydd y tu hwnt i’r cyffredin, er mwyn codi ymwybyddiaeth, herio rhagdybiaethau a rhagfarn y tîm, a chael syniadau newydd

Rydyn ni’n PARCHU ein gilydd – rydyn ni’n garedig ac rydyn ni’n hyrwyddo cynhwysiant.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y BBC

  • BBC agored sy’n adlewyrchu ac yn dathlu amrywiaeth y cynulleidfaoedd a wasanaethwn ar draws y sefydliad
  • Rhyddid i ddod â’ch hunan go iawn i’r gwaith a hyder i allu lleisio eich barn a bod eich llais unigryw yn cael ei glywed a’i werthfawrogi
  • Polisïau ac arferion sy’n cyd-fynd â’n huchelgeisiau cynhwysol a’n dewisiadau gweithio hyblyg i gyd-fynd â’ch anghenion a’ch llesiant

Beth mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan bawb

  • Dewch â’ch hunan go iawn i’r gwaith gan weithio i’ch cryfderau. Byddwch yn eiriolwr dros gynhwysiant a pharch, a chodi llais pan nad yw hyn yn digwydd
  • Rhoi eich holl sylw i bobl a sefyllfaoedd gan gydnabod a deall emosiynau, syniadau a safbwyntiau pobl eraill
  • Dangos hunanymwybyddiaeth a haelioni. Byddwch yn ystyriol o’ch effaith ar bobl eraill a’u gwaith

Yr hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan arweinwyr

  • Bod yn gynhwysol ac yn deg yn y ffordd rydych chi’n cyflogi, yn rheoli, yn tyfu, yn dathlu ac yn gwobrwyo talent - meithrin timau sydd wir yn cynrychioli ein cynulleidfaoedd
  • Creu amgylchedd tîm lle rydyn ni’n trin pawb yn deg ac yn gyfartal, lle gellir lleisio barn a derbyn safbwyntiau amrywiol yn onest ac yn barchus a lle mae pryderon yn cael eu codi
  • Gofyn yn rheolaidd i’ch tîm beth sydd ei angen i gefnogi ymgysylltiad a llesiant parhaus, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid

Rydyn ni’n ATEBOL ac yn cyflawni gwaith o’r safon uchaf.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y BBC

  • Ffocws ar berfformiad a safonau ymddygiad uchel
  • Eich grymuso i gyflawni eich gwaith gorau
  • Cyfrannu at ein hymrwymiad cynaliadwyedd i gyflawni Sero Net erbyn 2030, yn ogystal â hysbysu ac ysbrydoli cynulleidfaoedd ynghylch newid yn yr hinsawdd

Beth mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan bawb

  • Mae perfformio’n uchel fel unigolyn ac ar y cyd yn bwysig. Byddwch yn fasnachol ymwybodol, yn amgylcheddol gyfrifol a chanolbwyntiwch ar ganlyniadau
  • Manteisio ar y cyfle i gymryd yr awenau ac i osod nodau a thargedau ymestynnol. Cyflawni’n chwim a dathlu llwyddiant
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb dros werth am arian a rhagoriaeth weithredol; canfod atebion syml i broblemau a’u helpu i’w rhoi ar waith

Yr hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan arweinwyr

  • Ysgwyddo cyfrifoldeb dros gynlluniau y cytunwyd arnynt a’r cyfeiriad strategol. Bod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau. Aros yn ystwyth a helpu eich tîm i addasu
  • Cytuno ar nodau cyraeddadwy clir ac uchelgeisiol gyda’ch tîm o ran perfformiad ac ymddygiad. Esbonio sut mae perfformiad uchel yn edrych a pham ei fod yn bwysig Dal eich tîm yn atebol am ganlyniadau unigol ac ar y cyd. Tracio cynnydd a rhoi adborth amserol, gonest a rheolaidd ar ymddygiad a pherfformiad. Cefnogi a herio i helpu unigolion i newid o berfformiad da i berfformiad uchel a chymryd camau gweithredu lle mae angen gwella perfformiad

Rydyn ni’n UN BBC – rydyn ni’n cydweithio, yn dysgu ac yn tyfu gyda’n gilydd.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y BBC

  • Y cymorth, yr adnoddau a’r dechnoleg i weithio a chydweithio’n effeithiol ar draws timau
  • Cyfle i ddysgu gan arbenigwyr byd-eang a chyfleoedd rheolaidd i ddatblygu eich hun
  • Mwy o ryddid i symud o gwmpas, i ysgwyddo cyfrifoldeb yn gynnar ac i ddatblygu eich gyrfa

Beth mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan bawb

  • Gweithredu, meddwl a chydweithio fel un BBC. Ystyried anghenion a blaenoriaethau pobl eraill a’r sefydliad ehangach wrth gynllunio a gweithredu
  • Bod yn gyfrifol am eich dysgu a’ch gyrfa. Bod yn agored i adborth: gwrando ar gynulleidfaoedd, cwsmeriaid a chydweithwyr a myfyrio ar lwyddiannau a chamgymeriadau wrth i chi ddysgu a thyfu
  • Croesawu newid: chwilio am gyfleoedd newydd a chanolbwyntio ar eich llesiant er mwyn gallu ymateb yn hyblyg i heriau newydd

Yr hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gan arweinwyr

  • Cyd-greu cynlluniau datblygu a thrafod cynnydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Annog unigolion i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan y BBC cyfan i’w gynnig
  • Modelu meddylfryd o ddysgu. Hyfforddi aelodau’r tîm yn rheolaidd ar berfformiad ac ymddygiad. Gofyn y cwestiynau cywir i ddatblygu dealltwriaeth o sefyllfa, canfod atebion a datrys gwrthdaro
  • Ysbrydoli eich tîm i groesawu newid. Cyfathrebu’n aml ac yn bersonol drwy gyfnodau o ansicrwydd. Bod yn onest am yr hyn sydd wedi cael ei benderfynu a’r hyn y gall y tîm ddylanwadu arno
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: